Skip to Main Content

Cludiant Ysgol a Choleg (ac eithrio Addysg Arbennig)

Yn gyffredinol, mae cludiant am ddim wedi’i gyfyngu i ddisgyblion sy’n mynychu ysgol eu dalgylch ac sy’n byw’r pellter angenrheidiol o’r ysgol.

Plant Ysgolion Cynradd 

Darperir cludiant am ddim os yw’r disgybl yn byw mwy na 1.5 milltir o’r ysgol dalgylch.

Plant Ysgolion Cyfun

Darperir cludiant am ddim os yw’r disgybl yn byw mwy na 2 filltir o’r ysgol dalgylch.

Ar ôl 16 oed (Oedran 16-19 oed) 

Mae disgyblion dros 16 oed sy’n byw yn Sir Fynwy â hawl i gael cludiant cymorthdaledig o’r cartref i’r ysgol/coleg os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf sydd wedi eu gosod ar eu cyfer yn y ddogfen Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg, sydd ar gael i lawrlwytho isod.

Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni cais a pholisïau perthnasol isod:

  • Ffurflen gais Cludiant am Ddim o’r Cartref i’r Ysgol
  • Ffurflen gais Cludiant Rhatach o’r Cartref i’r Ysgol
  • Ffurflen gais Grant Teithio/Cludiant ar ôl 16 Oed
  • Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, gofynnir i chi gysylltu â’r Uned Cludiant Teithwyr:

Ffôn:  01633 644777      E-bost:  passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk