Skip to Main Content

Mae’r adran hon yn cynnig arweiniad cyffredinol ar y cymorth sydd ar gael ar gyfer costau gofal plant.

Oes modd imi dderbyn cymorth tuag at gostau gofal plant?

Os ydych chi’n talu am gostau gofal plant efallai y bydd modd i ni anwybyddu hyd at £175 (ar gyfer un plentyn) a £300 (ar gyfer dau neu fwy o blant) o’ch enillion wrth i ni weithio allan eich hawl i dderbyn Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor.

I fod yn gymwys i dderbyn cymorth ar gyfer eich costau gofal plant y mae’n rhaid eich bod:

  • yn gwpl a’r ddau ohonoch chi’n gweithio 16 awr neu’n fwy yr wythnos
  • unig riant sydd yn gweithio 16 awr yr wythnos neu’n fwy yr wythnos
  • cwpl lle y mae un ohonoch chi’n gweithio 16 awr neu’n fwy yr wythnos a’r llall yn ‘analluog’ neu yn yr ysbyty neu’r carchar

Hefyd, efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn cymorth ar gyfer eich costau gofal plant os ydych chi’n absennol o’r gwaith dros dro o ganlyniad i salwch, cyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu.

Pa gostau gofal plant sydd yn gymwys?

Mae’n rhaid bod y plentyn o dan 15 oed neu o dan 16 oed os ydynt yn anabl.

Mae’n rhaid ei fod yn derbyn gofal gan un o’r canlynol:

  • gwarchodwr plant cofrestredig
  • meithrinfa neu gynllun chwarae cofrestredig
  • cynllun y tu allan i oriau ysgol wedi’i redeg gan ddarparwr wedi’i gymeradwyo. Bydd y cynllun y tu allan i oriau ysgol yn gallu rhoi gwybod i chi a yw’n un sydd wedi’i gymeradwyo ai peidio
  • clwb neu gynllun y tu allan i oriau ysgol wedi’i ddarparu gan ysgol ar safle’r ysgol neu gan awdurdod lleol

cynllun gofal plant wedi’i ddarparu ar eiddo’r Goron (eiddo bod Ei Mawrhydi neu adran y llywodraeth yn berchen arno) lle nad oes angen iddo gofrestru.

mudiad wedi’i achredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliadau’r Credydau Treth.

Ceir gwybodaeth bellach ar y daflen cymorth â chostau gofal plant.