Skip to Main Content

Mae Swyddfa Gofrestru Brynbuga yn cadw cofnodion genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ar gyfer Sir Fynwy o fis Gorffennaf 1837 hyd at y dydd heddiw. Rydym yn cadw’r holl gofnodion partneriaethau Sifil ar gyfer awdurdod cofrestru Sir Fynwy.

Gall unrhyw un wneud cais am dystysgrif cyhyd ag y gallant roi’r wybodaeth berthnasol drwy:

Ffonio         01873 735435

Yn bersonol  yn y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Sir Fynwy, Rhadyr, Brynbuga,                                   NP15 1GA

Post i’r cyfeiriad uchod

Y ffi am y dystysgrif yw £11 yn defnyddio ein gwasanaeth 7 diwrnod safonol, fodd bynnag os dymunwch ddefnyddio ein gwasanaeth blaenoriaeth yr un diwrnod y ffi yw £35. Gallwch dalu gydag Arian Parod, Cerdyn Credyd neu Ddebyd neu drwy archeb bost taladwy i Gyngor Sir Fynwy.

Os galwch yn y swyddfa gyda gwybodaeth llawn a chywir am y digwyddiad, anelwn ddarparu’r dystysgrif o fewn 20 munud. Byddai’r ffi blaenoriaeth o £35 yn weithredol wedyn.

Os gwnewch gais dros y ffôn yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd, byddwn yn postio eich tystysgrif gyda phost dosbarth cyntaf ar ddyddiad derbyn y cais.

Os ydych yn e-bostio neu ysgrifennu, anelwn ymateb o fewn tri diwrnod gwaith o dderbyn eich cais.

Tystysgrifau ar gyfer hanes teulu

Mewn achosion sydd angen chwilio helaeth, ni allwn bob amser roi gwasanaeth yr un diwrnod ar gyfer tystysgrifau hanes teulu. Fe’ch cynghorir i anfon neges e-bost at y swyddfa yn y lle cyntaf i registeroffice@monmouthshire.gov.uk  i wneud yn siŵr fod y cais gennym cyn gwneud cais am y dystysgrif.

Os hoffech wybod mwy am eich hanes eich teulu, ewch i’n  tudalen Hanes Teulu.

Byddwn yn derbyn ceisiadau drwy’r post gydag archeb bost neu fanylion cerdyn debyd a rhif ffôn yn ystod y dydd.

Byddwn yn ymdrechu i gysylltu â chi gyda chanlyniadau ein chwiliad o fewn wythnos o dderbyn eich cais.

Diolch i chi am eich amynedd.