Skip to Main Content

Gwelodd 2018 gynnydd enfawr mewn diddordeb mewn plastig defnydd untro. Nid yn lleiaf oherwydd y golygfeydd brawychus o lygredd plastig yn ein moroedd a welwyd ar gyfres Blue Planet II ar y BBC.

Defnyddir tanwydd ffosil gwerthfawr i wneud plastigau untro fel gwellt a hambyrddau polystyren. Mae’r eitemau hyn yn costio arian i’w prynu ac wedyn eu gwaredu. Mae plastig yn ysgafn ac yn wydn sy’n ei wneud yn ddeunydd bob dydd defnyddiol ond pan gaiff ei daflu fel sbwriel, mae’n hagru ein tirlun, yn anafu bywyd gwyllt ar dir a gall gymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru.

Felly fel cyngor rydym yn cymryd camau i ostwng ein defnydd ein hunain o blastig a pholystyren un-tro diangen ac annog pobl eraill i wneud yr un fath.

Rydym yn ailfeddwl am ein defnydd o boteli llaeth a gwellt plastig mewn ysgolion, cwpanau plastig mewn swyddfeydd a bagiau plastig untro ar gyfer casglu ailgylchu allan ar y stryd.

Mae llwyth o bethau y gallwn ei gwneud yn cynnwys:

  • Mynd i’r arfer o godi ychydig ddarnau sbwriel pan ydych allan yn cerdded, bydd hyn yn annog pobl eraill i beidio ei daflu yn y lle cyntaf!
  • Gofyn i’ch hoff decawê i weini eich bwyd mewn papur neu gerdyn yn hytrach na phlastig a pholystyren. Rhowch gerdyn post iddynt y gallwch hefyd ei gasglu o un o’n hybiau cymunedol
  • Gadael i’r siop neu wneuthurydd wybod os ydych yn anhapus gyda’r deunydd pecyn ar eich hoff gynnyrch. Defnyddiwch eich cerdyn post ar gyfer hyn
  • Mae llawer o gaffes a thafarndai yn fodlon ail-lenwi eich potel dŵr am ddim – holwch!
  • Mae ‘Ap Ail-lenwi Cymru’ yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd – cadwch eich llygad ar agor i ddarganfod mwy o orsafoedd ail-lenwi

O’ch siop sglodion leol, i arddwest yr ysgol, o barti teuluol bach i ddigwyddiad corfforaethol mawr, gall pawb ohonom chwarae ein rhan wrth gael gwared ag eitemau tafladwy o blaid rhai y gellir eu hailddefnyddio. Parti Ar Y Gweill?

Yn aml anghofir am fathau eraill o sbwriel fel balŵns a llusernau ond gall y rhain hefyd achosi niwed i fywyd gwyllt ac eiddo. Gwaharddwyd rhyddhau llu o falŵns o dir Cyngor Sir Fynwy ers nifer o flynyddoedd a rydym yn annog perchnogion tir eraill i wneud yr un fath.

  • Os ydych yn prynu balŵn neu lusern – peidiwch gadael iddi fynd!!

Pan gaiff weipiau (yn cynnwys plastig) eu rhoi lawr y tŷ bach maent yn blocio draeniau ac yn achosi problem enfawr i gwmnïau dŵr a bywyd morol. Felly gan weithio gyda Dŵr Cymru ein cyngor yw:

  • ‘Stop cyn creu bloc!’

Mae ein grwpiau sbwriel lleol a Trefi Trosiant wedi ymuno yn y Fenni, Brynbuga, Cas-gwent a Threfynwy i helpu lledaenu’r gair. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio gydag ysgolion a busnesau i godi ymwybyddiaeth o’r difrod y gall plastig untro ei achosi i’n hamgylchedd a’r economi. Yn ddiweddar daeth Cas-gwent y dref gyntaf yn Sir Fynwy i gael Statws Di-blastig gyda Surfers Against Sewage. www.plasticfree.org.uk

I gael mwy o wybodaeth neu i gymryd ran:

Tudalen Facebook Y Fenni Ddi-blastig neu e-bost: plasticfreeabergavenny@gmail.com

Tudalen Blastig Cas-gwent Ddi-blastig neu e-bost: plasticfree@transitionchepstow.org.uk

Tudalen Blastig Trefynwy Ddi-blastig neu e-bost: plasticfreemonmouth@gmail.com

Sir Fynwy Ddi-Blastig

Pleidleisiodd y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2018 yn unfrydol i weithio tuag at ddod yn Sir ddi-blastig fel y cefnogwyd gan Surfers Against Sewage. Mae hyn yn golygu y byddwn yn lleihau ein plastigau defnydd unigol a diangen i’r eithaf, a byddwn yn cefnogi’r grwpiau cymunedol niferus sy’n gweithio’n galed i wneud eu lleoedd yn rhydd o blastig.

Beth fyddwn ni’n ei wneud i’r gymuned?

  • Cefnogi mentrau lleol di-blastig a’r grwpiau cymunedol sy’n gweithio arnynt.
  • Gweithio gydag arweinwyr cymunedol i basio’r cynnig Cymunedau Di-blastig.
  • Cysylltu ag arweinwyr cymunedol i hwyluso a hyrwyddo’r ymgyrch yn lleol.
  • Annog ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol ac unigolion i gymryd rhan.

Beth y mae’n rhaid i’r Cyngor ei wneud i sicrhau statws di-blastig:

  • Dangos arweiniad a sefydlu gweithgor er mwyn archwilio’r opsiynau sydd ar gael i fod yn gyngor di-blastig.
  • Cyflawni archwiliad cyflawn o eitemau plastig untro y gellir eu hosgoi a ddefnyddir ar draws adeiladau a chyfleusterau’r Cyngor.
  • Datblygu strategaeth ar gyfer dileu plastigau defnydd untro y gellir eu hosgoi.
  • Cynghorydd i gyflwyno cynnig o ran y Cyngor Sir yn troi’n gyngor di-blastig defnydd untro a phlastig y gellir ei osgoi.
  • Pasio’r cynnig drwy bleidlais fwyafrifol i gefnogi gweledigaeth yr Arfordir Di-blastig a Chymunedau Di-blastig yn y sir.
  • Ystyried sut y gallwn hyrwyddo gostyngiad mewn plastigau defnydd untro ar draws ardal y cyngor a chynnwys awdurdodau casglu a gwaredu gwastraff yn y broses hon.
  • Pob ysgol sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor Sir i fod yn rhan o’r fenter ysgolion di-blastig.

Dylai 70% o brif drefi Sir Fynwy fod wedi ennill statws cymuned ddi-blastig gyda’r gweddill yn gweithio tuag ato er mwyn i Sir Fynwy gyrraedd statws Di-blastig.

 

Mae Greenpeace, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Cadw Cymru’n Daclus ac eraill i gyd yn ceisio mynd i’r afael â phroblem plastig un defnydd:

www.greenpeace.org.uk

www.mcsuk.org

www.keepwalestidy.cymru

www.ellenmacarthurfoundation.org

 Mae gorsafoedd ail-lenwi ar gyfer poteli dŵr a photeli dychwelyd ernes ar gyfer poteli a chaniau ymysg y mesurau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraethau Cymru, yr Alban, y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Mae archfarchnadoedd a’r diwydiant pecynnu hefyd wedi ymrwymo i ostwng eu dibyniaeth ar becynnu plastig. Edrychwch ar WRAP: www.wrap.org.uk