Skip to Main Content

Pryd mae fy niwrnod casglu?

Ewch i'r dudalen Gwybodaeth Leol i ganfod pryd y caiff eich gwastraff ac ailgylchu eu casglu.

Rhowch eich ailgylchu a’ch gwastraff allan erbyn 7am os gwelwch yn dda

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, casglwch fagiau melyn o’ch Hyb Cymunedol. lleol.Nid oes raid i chi gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth yma.

Caiff gwastraff cewynnau a hylendid ei gasglu bob bythefnos mewn bagiau melyn. Bydd eich diwrnod casglu yr un diwrnod â diwrnod casglu eich sbwriel cartref.

Rydym wedi gostwng maint y bagiau melyn ohewydd pwysau codi’r bagiau ar gyfer ein preswylwyr a gweithwyr. Gallwch roi cynife o fagiau melyn mas ag ydych angen.

Ar gyfer disgresiwn, gallwn gasglu eich bagiau melyn o du mewn bin sbwriel bach a gaiff ei roi ar y palmant wrth ymyl eich sbwriel.

Dim ond ar gyfer cewynnau a gwastraff hylendid ac eitemau cysylltiedig tebyg i gewynnau tafladwy, gwlân cotwm, weips, sachau cewynnau a chynnyrch gwastraff glanweithdra amsugnol y dylid defnyddio’r bagiau melyn. Ni chânt eu casglu os y’u defnyddir ar gyfer sbwriel cartref cyffredinol.

Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni:

E-bost: contact@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644644

Neu ymweld â’ch Hyb Cymunedol Lleol

Cewynnau Go Iawn

Amcangyfrifir y caiff 200 miliwn o gewynnau tafladwy eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae cewynnau tafladwy yn creu llawer iawn o wastraff, sy’n ddrud i’w gasglu a chael gwared ag ef.

Amser newid?

Mae mwy a mwy o rieni yn newid i gewynnau go iawn. Yn ogystal â bod yn garedig i groen eich baban (gan nad ydynt yn cynnwys unrhyw gemegau), nid ydynt yn cynnwys unrhyw wastraff a gallant arbed cannoedd o bunnau i chi (o gymharu â chewynnau tafladwy).

Gyda chynlluniau modern heddiw, ni fedrai fod yn rhwyddach defnyddio cewynnau go iawn. Mae llawer yn cau gyda Velcro neu boperi a gellir eu golchi gyda dillad eich baban ar 40ºC. Os ydynt yn frwnt, gellir eu golchi ar wahân yn 60ºC a gallant gael eu sychu ar lein neu mewn sychwr taflu.

Mae gennym hefyd nifer gyfyngedig o samplau am ddim i’w rhoi i rieni sy’n byw yn Sir Fynwy. E-bost RecyclingandWaste@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o fanylion.