Skip to Main Content

Pryd mae fy nydd casglu?

Ymwelwch â Fy Sir Fynwy i ddarganfod pryd bydd eich gwastraff a'ch ailgylchu'n cael eu casglu.

Gwybodaeth bwysig am y gwasanaethau casglu

Peidiwch â rhoi hancesi papur, rholyn cegin, papur toiled neu glytiau yn eich bagiau ailgylchu. Rhaid eu gosod yn eich bagiau du. Os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau Covid 19, dylech ddefnyddio 2 fag yn hytrach nag 1 er mwyn casglu’r sbwriel a’u gosod o’r neilltu am 72 awr cyn gosod y bagiau du allan i’w casglu.

Rhowch eich ailgylchu a gwastraff mas erbyn 7am os gwelwch yn dda.

Peidiwch â rhoi eitemau trydanol neu fatris yn eich casgliad ailgylchu coch a phorffor. Gall batris Lithium-Ion sydd mewn ffonau symudol a gliniaduron achosi tân pan gânt eu hanfon i’r safle taflu gwastraff. Mae’n bwysig cael gwared â batris mewn mannau casglu batri mewn siopau neu yn eich Canolfan Ailgylchu.

Calendr casgliadau sbwriel bob bythefnos 2024

Lawrlwythwch ein taflen yn esbonio Beth sy’n mynd ym mha fag.

  • Dim ond DAU fag o sbwriel cartref a gasglwn gennych.
  • Gallwch ddefnyddio bagiau o unrhyw liw ar gyfer sbwriel cartref ond ni ddylent fod yn ddim mwy na 80 litr (bag bin maint safonol).
  • Gallwch ddal i ddefnyddio eich cyflenwad o fagiau llwyd nes iddynt ddod i ben.
  • Peidiwch defnyddio’r bagiau ailgylchu ar gyfer sbwriel aelwyd gan na chânt eu casglu.

Eithriadau i’r cyfyngiad dau fag

Ers 2013 rydym wedi gweithredu gwasanaeth casglu sbwriel cartref wedi’i gyfyngu i ddau fag bob bythefnos. Fel canlyniad rydym yn awr yn ailgylchu 64% o’n holl wastraff cartrefi.

Gall preswylwyr gyda  chewynnau a gwastraff hylendid gael bagiau melyn pwrpasol a gaiff eu casglu bob bythefnos gyda’ch sbwriel cartref. Gallwch gasglu bagiau ar gyfer y gwasanaeth hwn o’ch Hyb Cymunedol lleol.

Os oes mwy na pump o bobl yn byw yn eich cartref gallwch Gysylltu â Ni am gyngor am reoli eich gwastraff.

Gall lludw gael ei roi mewn bin sbwriel a chaiff ei gasglu yn ychwanegol at eich bagiau sbwriel, gofynnir i chi wneud yn siŵr fod y lludw yn oer.

Ar eich diwrnod casglu sbwriel cyntaf ar ôl y Nadolig gallwch roi un bag ychwanegol ar gyfer sbwriel eich cartref.

Viridor a Chronfa Gymunedol Prosiect Gwyrdd