Skip to Main Content

Gellir derbyn plant o’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd cyn belled â bod lleoedd ar gael. Gall hyn fod mewn ysgol feithrin a gynhelir gan Awdurdod Lleol neu mewn gosodiad preifat a all fod yn gylch chwarae neu feithrinfa ddydd breifat.

Mae gan Sir Fynwy 12 meithrinfa ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol a bydd angen i blant fynychu 5 sesiwn yr wythnos ar gyfer sesiwn hanner diwrnod a chael un ai lle bore neu brynhawn. Mae ysgolion yn disgwyl i ddisgyblion sy’n mynychu’r feithrinfa i gymryd yr holl sesiynau sydd ar gael iddynt.

Ceisiadau yn Ystod y Flwyddyn

Gellir gwneud ceisiadau yn ystod y flwyddyn ar unrhyw adeg ar gyfer derbyniadau y tu allan i’r cylch derbyn arferol.

Gwneud cais ar gyfer Medi 2024

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1af Medi 2020 a 31ain Awst 2021 gallwch wneud cais am le mewn ysgol feithrin yn 2024 rhwng 7fed Gorffennaf 2023 a 15ydd Medi 2023. Mae gan Gyngor Sir Fynwy system ar-lein i ymgeisio ar gyfer derbyn, sydd ar gael i chi ei defnyddio wrth wneud cais eich plentyn. Mae’r system yn eich galluogi i weld a diwygio cais eich plentyn hyd at y dyddiad cau, sef 15ydd Medi 2023 am 5pm.

Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu i gwblhau eich cais.

Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2024-25

Bydd llythyron penderfyniad ar gyfer lleoedd mis Medi 2024 yn cael eu cyhoeddi ar 10af Tachwedd 2023.

Gellir cynnig cychwyn cynnar i blant a anwyd rhwng 1af Medi 2020 a 31ain Rhagfyr 2020 o fis Ionawr 2024.

Gellir cynnig cychwyn cynnar i blant a anwyd rhwng 1af Ionawr 2021 a 31ain Mawrth 2021 o fis Ebrill 2024.

Nid yw plant a anwyd rhwng 1af Ebrill 2020 a 31ain Awst 2020 yn gymwys i ddechrau’n gynnar.

Bydd llythyron penderfyniad, sy’n cynnig cychwyn cynnar os oes lleoedd ar gael, yn cael eu cyhoeddi:

  • Ar 10af Tachwedd 2023 ar gyfer dechrau yn Ionawr 2024
  • Ar 6af Mawrth 2024 ar gyfer dechrau yn Ebrill 2024

Meini prawf os oes Tanysgrifio

Lle mae mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, caiff y meini prawf dilynol eu gweithredu i benderfynu pwy gaiff y lleoedd sydd ar gael.

1 – Plant sy’n derbyn gofal neu blant a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol, h.y. plant sydd dan ofal neu sydd wedi bod o dan ofal awdurdod lleol.

2 – Seiliau meddygol neu gymdeithasol a amlygir gan asiantaethau priodol

3 – Plant sydd â brawd neu chwaer perthnasol yn bresennol yn y feithrinfa ddewisol.

4 – Ar ôl cymhwyso’r categorïau uchod, neu os yw’r ysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa o ordanysgrifio yn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd y flaenoriaeth yn seiliedig ar agosrwydd i’r ysgol a ffafrir, wedi’i fesur gan ddefnyddio’r llwybr cerdded diogel byrraf. Gofynnir i chi ddangos unrhyw ddogfennau priodol yr ystyrir fod eu hangen i wirio cyfeiriadau cartref.

Gellir cael ffurflenni cais i fynychu meithrinfeydd cymeradwy nas cynhelir, cylchoedd chwarae neu Gylchoedd Meithrin yn uniongyrchol o’r gosodiadau. Gellir dod o hyd i rifau cyswllt ar y wefan hon drwy ddefnyddio’r Cyfleuster Chwilio Gofal Plant.

Os ydych angen mwy o wybodaeth am dderbyniadau meithrin cysylltwch â’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr ar 01633 644508 neu drwy ddanfon e-bost at accesstolearning@monmouthshire.gov.uk