Skip to Main Content

Rydym yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau yn ein saith canolfan addysg gymunedol ledled Sir Fynwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Addysg Oedolion a Chymunedol yn Sir Fynwy, anfonwch e-bost at communityed@monmouthshire.gov.uk

Mae fersiwn PDF ar gael o’n llyfryn 2011/12, sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar ba gyrsiau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ac ym mha canolfannau addysg.

I gofrestru ar gwrs Addysg Oedolion a Chymunedol:

  • Cysylltwch â’r ganolfan lle mae’r cwrs yn cael ei gynnal, naill ai wyneb yn wyneb, trwy e-bost neu dros y ffôn, a gofyn am i’ch enw gael ei roi ar y gofrestr.
  • Cwblhewch y ffurflen archebu cwrs a’i dychwelyd trwy anfon e-bost at communityed@monmouthshire.gov.uk neu drwy ei hanfon at y ganolfan o’ch dewis.

Sylwer nad oes caniatâd i ddisgyblion o dan 16 oed gofrestru ar gyrsiau.

Faint fydd cost y cwrs?

Cysylltwch â’r ganolfan addysg i gael manlyion am gost y cwrs yr ydych wedi’i ddewis.

Mae gostyngiadau ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol a/neu sy’n byw ar incwm isel. Gweler “A allaf gael cymorth tuag at gost cyrsiau?” am ragor o fanylion.

Mae hefyd grantiau ar gael i fyfyrwyr sydd angen cymorth ariannol arnynt.

Sut i dalu

Gallwch dalu mewn tair ffordd:

  • Gydag arian parod
  • Gyda siec sy’n daladwy i “Cyngor Sir Fynwy”
  • Gyda cherdyn credyd mewn canolfan hamdden sy’n perthyn i Gyngor Sir Fynwy (nid yw’r cyfleuster hwn ar gael ar hyn o bryd mewn safleoedd eraill).

Gellir talu mewn dau randaliad ar gyfer cyrsiau sy’n para am fwy nag un tymor neu 10 wythnos.

Sylwer eich bod yn atebol am yr holl gostau os gadewch y cwrs cyn iddo ddod i ben.

Peidiwch ag anghofio bod rhai cyrsiau heb gostau dysgu, a gallwch fod yn gymwys i gael gostyngiad. Ceir manylion gan y Canolfannau Addysg Gymunedol neu drwy anfon e-bost at communityed@monmouthshire.gov.uk

Gwybodaeth ychwanegol am gyrsiau Addysg Oedolion a Chymunedol

  • Rydym yn cadw’r hawl i ganslo, cau, uno neu newid dosbarthiadau ar unrhyw adeg.
  • Ni fydd cychwyn ar ddosbarthiadau sydd heb gyrraedd yr isafswm o ran nifer y myfyrwyr.
  • Ni roddir ad-daliadau fel arfer, ac eithrio mewn amgylchiadau lle mae dosbarthiadau yn cael eu cau neu eu huno gan y rheolwyr.

Mae pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau bod y wybodaeth ynghylch cyrsiau Addysg Oedolion a Chymunedol yn gywir. Serch hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am hawliadau sy’n deillio o newidiadau, camgymeriadau neu hepgoriadau.

Cyfle Cyfartal mewn Addysg Oedolion a Chymunedol

  • Mae gan bob un o’n canolfannau ddatganiad anabledd a manylion hygyrchedd.
  • Caiff pob myfyriwr gopi o’n Siarter Myfyrwyr.
  • Mae pob canolfan sydd gennym yn croesawu myfyrwyr, waeth beth yw eu rhyw, hil, ethnigrwydd, oedran, anabledd neu grefydd.