Skip to Main Content

Dulliau talu

Gweler isod y dulliau talu sydd ar gael.

  • Debyd Uniongyrchol
  • Arian Parod / Siec (trwy’r Post)
  • Cerdyn Debyd neu Gerdyn Credyd
  • Talu ar-lein
  • Taliadau awtomataidd dros y ffôn

Mae nifer o ffyrdd i dalu eich treth y cyngor.

Mae modd i chi

dalu un taliad

talu dau daliad cyfartal

neu dalu dros gyfnod o ddeg mis mewn rhandaliadau

Talu’n llawn

O ganlyniad i gyfraddau llog isel erbyn hyn y mae’r gostyngiad ar gyfer talu eich Treth y Cyngor yn gynnar ac yn llawn wedi dod i derfyn.

 

Talu mewn rhandaliadau

Mae modd i chi dalu mewn dau randaliad hanner blwyddyn ym mis Ebrill a mis Hydref er dylech chi roi gwybod i’r Cyngor os ydych chi am dalu gan ddefnyddio’r dull hwn.

Mae’r cynllun statudol yn rhoi’r hawl i chi dalu trwy ddeg rhandaliad o fis Ebrill tan fis Ionawr.

Os ydych chi’n dod yn agored i dalu Treth y Cyngor yn hwyrach yn y flwyddyn efallai y bydd hawl gennych chi dalu llai o randaliadau.

 

Diffyg Talu

Mae’r Cyngor yn gorfod gweithredu er mwyn casglu unrhyw ôl-ddyledion rhandaliadau a bydd yn dosbarthu llythyr atgoffa.

 

Os oes angen cyhoeddi gwys, bydd hyn yn achosi costau ychwanegol a byddwch chi’n colli’r hawl i barhau i dalu mewn rhandaliadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

 

Bydd costau pellach os oes angen trefnu i feilïaid gasglu’r ddyled.

 

Anawsterau o ran talu eich Treth y Cyngor

Dylai taliadau gael eu derbyn naill ar y dyddiad neu cyn y dyddiad sydd wedi’i nodi ar fil eich Treth y Cyngor. Gellwch chi golli eich hawl i dalu mewn rhandaliadau os oes angen anfon Hysbysiadau Atgoffa o ganlyniad i daliadau hwyr. Os oes angen cyhoeddi gwys (i’w chlywed gerbron Llys Ynadon), bydd angen talu’r falans yn ei chyfanrwydd yn ogystal â thalu costau o £50.00.

 

Os nad yw’r wys yn cael ei thalu yn ei chyfanrwydd, yn cynnwys y costau, erbyn dyddiad y gwrandawiad bydd y Cyngor yn parhau â’r achos a gofyn am Orchymyn Dyled gan ychwanegu cost ychwanegol o £20.00.

 

Mae Gorchymyn Dyled yn galluogi’r Cyngor i weithredu yn bellach er mwyn casglu’r ddyled.

 

Pan ein bod yn derbyn Gorchymyn Dyled byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy lythyr. Pan eich bod chi’n derbyn y llythyr hwn dylech chi gysylltu â ni ar unwaith er mwyn trafod eich sefyllfa a threfnu i dalu’r swm sydd yn ddyledus.

 

Mae modd i chi gysylltu â ni i dderbyn cyngor ar unrhyw adeg os ydych chi’n colli tir o ran talu eich taliadau. Os ydych chi wedi derbyn gwys mae modd i chi drefnu talu ond bydd yn dal i fod angen i chi dalu costau’r wys. Os nad yw’n cael ei thalu yn ei chyfanrwydd erbyn dyddiad y gwrandawiad byddwn yn parhau i ofyn am y Gorchymyn Dyled gan y Llys Ynadon.

 

Cyn i chi gysylltu â ni efallai y bydd o gymorth i chi restru eich incwm a’ch gwariant a dod o hyd i’r swm gellwch chi ei fforddio ei ad-dalu bob wythnos neu bob mis.

 

Beth sydd yn digwydd os ydw i’n methu ar y trefniadau?

 

Os ydych chi ar ei hôl hi o ran y trefniadau ac nid ydym yn clywed gennych chi gallwn ni gasglu’r arian sydd yn ddyledus mewn un o’r ffyrdd canlynol.

 

Gallwn ni dynnu’r arian o’ch cyflog

Gallwn ni dynnu’r arian o’ch taliadau Cymhorthdal Incwm

Gallwn ni ddefnyddio beilïaid

Beth sydd yn digwydd os ydych chi’n trosglwyddo fy nghyfrif i’r beilïaid?

 

Unwaith ein bod wedi trosglwyddo eich cyfrif i’r beilïaid byddant yn cysylltu â chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau dylech chi gysylltu â’r beilïaid.

 

Mae’r Gorchymyn Dyled yn caniatáu i’r beilïaid fynd â nwyddau rydych chi’n berchen arnynt fel y bod modd i ni eu gwerthu a defnyddio’r arian i dalu’r Dreth y Cyngor sydd yn ddyledus. Yn ymarferol, bydd hyn ond yn digwydd yn achos achosion eithriadol oherwydd byddai’n well gan y beilïaid ddod i gytundeb â chi i glirio’r ddyled dros gyfnod o amser.

 

Mae hawl gan gwmnïau beilïaid godi ffioedd a bydd y rhain yn daladwy i’r beilïaid yn ychwanegol i gost y Dreth y Cyngor a chostau’r wys.

 

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni yn brydlon os ydych chi’n profi anawsterau o ran eich taliadau fel bod modd i ni roi cyngor a chefnogaeth.

E-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644 630

 

Adran Refeniw
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Post 149
Y Fenni
NP7 1BJ

 

Cysylltu

Ffôn: 01633 644630

Cyfeiriad: Council Tax, PO Box 106, Cil-y-coed, NP26 9AN

E-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk