Mae gwneud cais am y budd-dal hwn bellach yn haws. Gallwch ei hawlio drwy:
Ar lein
Darperir ein gwasanaeth Budd-daliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. A fyddech cystal â mynd i’r dudalen a dewis ‘Hawlio Budd-daliadau Ar lein’ i weld a oes gennych hawl i dderbyn neu i hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor.
Ffôn
Gallwch wneud cais drwy ffonio 0800 028 2569. Bydd arnom angen:
- Eich enw
- Eich cyfeiriad
- Rhif cyswllt
Byddwn yn trefnu wedyn i gwblhau eich cais trwy gyfweliad personol gyda chi yn un o’n siopau un stop.
Yn bersonol
Galwch i mewn i un o’n siopau un stop a gwneud apwyntiad am gyfweliad personol. Os yw’n anodd i chi gyrraedd un o’n swyddfeydd neu rydych yn cael anhawster wrth lenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni ar 0800 028 2569 i drefnu i ni ymweld â chi.
Llenwi’r ffurflen gais fer
Gallwch argraffu a llenwi’r ffurflen gais fer. Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael gwybodaeth ychwanegol a thystiolaeth o incwm a chyfalaf.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein taflenni neu drwy ddarllen y Taflenni Budd-daliadau Cenedlaethol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy ffonio 01633 644650 neu drwy anfon e-bost at benefits@monmouthshire.gov.uk.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01633 644655
E-bost: benefits@monmouthshire.gov.uk
Cysylltu
Ffôn: 01633 644655
Ebost: benefits@monmouthshire.gov.uk