Skip to Main Content

Os yw’ch plentyn yn mynychu ysgol a gynhelir gan eich Awdurdod Addysg Lleol a rydych yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol, gallwch hawlio prydau ysgol am ddim:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth o dan Adran VI Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith ac nad yw’ch incwm blynyddol yn fwy na £16,190 (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy’n gyfrifol am asesu lefel eich incwm blynyddol)
  • Yr elfen gwarant ar Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Taliadau Credyd Treth Gwaith ychwanegol – y taliadau ychwanegol y gall unigolyn eu derbyn am bedair wythnos yn ychwanegol ar ôl i’w hawl i dderbyn Credyd Treth Gwaith ddod i ben

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grant dillad Blwyddyn 7 os yw’ch plentyn yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Gwneud cais am brydau ysgol am ddim

Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Prydau Ysgol am Ddim pan fyddwch yn dechrau derbyn budd-daliadau neu os bydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn. Byddwn yn ail-asesu eich cais bob blwyddyn wedyn ac yn anfon llythyr atoch i gadarnhau a ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ai peidio.

Os oes gofyn i chi lenwi ffurflen gais, nid oes yn rhaid i chi ddarparu dogfennau ategol i wirio eich hawl i’r budd-dal.

Y cyfan sydd ei angen yw i chi fel y rhiant/gofalwr gwblhau pob adran o’r cais; byddwn wedyn yn gwirio eich hawl i’r budd-dal gyda chronfa ddata’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.

Byddwn yn prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn academaidd o fewn pump i ddeg diwrnod gwaith. Os oes gennych hawl i brydau ysgol am ddim, byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau’r dyddiad pan fyddwch yn gallu dechrau hawlio prydau ysgol am ddim.

Ceir ysgolion eu hysbysu gan yr Uned Mynediad yn uniongyrchol os gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim.

Beth fydd yn cael ei ddarparu gan yr ysgol?

Bydd plant ysgol gynradd yn cael bwyd poeth fel prif saig bob dydd, gyda phwdin i’w ddilyn; bydd d?r ffres i yfed hefyd ar gael. Mae ffyn bara ar gael Dydd Mawrth a Dydd Iau, ac mae tatws trwy’u crwyn ar gael fel dewis amgen bob dydd.
Mae ysgolion uwchradd yn gyfrifol am eu bwydlenni eu hunain, ac fe’ch cynghorir i gysylltu â’r ysgol berthnasol yn uniongyrchol.

Ysgol Gyfun Trefynwy – 01600 775177 Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII – 01873 735373 Ysgol Cas-gwent – 01291 635779 Ysgol Caldicot – 01291 426436

Beth sy’n digwydd os oes gennyf blentyn maeth?

Os yw eich plentyn maeth yn derbyn gofal gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy, yna bydd pryd o fwyd am ddim yn cael ei ddarparu.
Byddwn yn rhoi gwybod i’r ysgol fel na fydd angen i chi lenwi ffurflen gais.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau?

Bydd angen i chi gysylltu â’r Uned Mynediad Myfyrwyr i Ysgolion ar unwaith i ddweud wrthym am y newid mewn amgylchiadau.

Peidiwch â pharhau i gymryd prydau ysgol am ddim, neu fe ofynnir i chi dalu am bob pryd o fwyd y mae’ch plentyn wedi eu cael ers i chi roi’r gorau i hawlio budd-daliadau.
Bydd angen i chi ddweud wrthym hefyd am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, fel budd-daliadau, cyfeiriad, ysgol, hawlydd ac ati.
schoolandstudentaccessunit@monmouthshire.co.uk
Ffôn: 01633 644508