Skip to Main Content

Os oeddech yn cael cymorth gyda’ch costau tai pan oeddech allan o waith, efallai y byddwch yn parhau i dderbyn yr un faint o fudd-dal tai a budd-dal treth y cyngor am bedair wythnos ar ôl i chi ddechrau gweithio. Fe’i gelwir hyn yn daliad estynedig.

Er mwyn bod yn gymwys am daliad estynedig:

  • Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn derbyn yn barhaus am o leiaf 26 wythnos cyn dechrau gwaith: Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol
  • Yn ogystal, mae’n rhaid bod disgwyliad bod eich cyflogaeth / oriau ychwanegol yn mynd i bara am 5 wythnos neu fwy

Nid oes angen i chi wneud cais am daliad estynedig. Bydd yn cael ei ddyfarnu yn awtomatig os byddwch yn bodloni’r amodau cymhwyso pan fyddwch yn dechrau gweithio.

Budd-dal tai a budd-dal treth y cyngor

Gallwch barhau i gael budd-daliadau tai neu dreth y cyngor os ydych yn gweithio. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm, eich cynilion, a’ch amgylchiadau teuluol.

Gallwch ddefnyddio’r system hawlio budd-daliadau ar-lein i weithio allan a fydd gennych hawl ai peidio i fudd-dal tai a/neu fudd-dal treth y cyngor. Noder: y mae wedi’i fwriadu fel canllaw yn unig. Fel arall, gallwch gysylltu â ni ar 0800 652 5422 (rhadffôn).

Credydau treth

Taliad yw credyd treth yr ydych yn ei gael yn rheolaidd. Mae naw allan o bob deg teulu sydd â phlant yn gymwys i gael credyd treth plant.

Os ydych yn gweithio’n fwy na 16 awr yr wythnos a’ch bod ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu cael credyd treth gwaith hefyd.

Efallai y bydd credydau treth yn gallu eich helpu hefyd gyda chostau gofal plant os ydych:

  • yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • wedi gweithio am fwy nag 16 awr yr wythnos cyn mynd ar absenoldeb mabwysiadu, mamolaeth, tadolaeth neu salwch

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hawlio credydau treth ar wefan y llywodraeth.

Credyd mewn gwaith

Taliad di-dreth sefydlog yw credyd mewn gwaith sy’n rhoi £40 yr wythnos i rieni sy’n magu plant ar eu pennau eu hunain. Mae’n daladwy am hyd at 52 wythnos ar ben eich enillion ar ôl i chi ddechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos. Mae angen i chi ei hawlio cyn i chi ddechrau gweithio.