Skip to Main Content
Talwch eich trethi busnes ar-lein!

Ardrethi annomestig yw’r ffordd y mae busnesau a deiliaid eiddo annomestig eraill yn cyfrannu’n anuniongyrchol tuag at gostau gwasanaethau awdurdodau lleol.

Mae trethi busnes (trethi annomestig cenedlaethol) yn daladwy am y rhan fwyaf o eiddo annomestig; fe’u ceir eu casglu gan y cyngor, eu talu i gronfa ganolog, a’u hailddosbarthu i awdurdodau lleol i dalu am wasanaethau. Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi, e.e. adeiladau ffermydd, parciau cyhoeddus, eglwysi.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn pennu gwerth ardrethol ar gyfer pob eiddo busnes. Mae hyn yn cynrychioli ei gwerth i’w rhentu ar y farchnad agored ar y dyddiad prisio. Mae’r dyddiad wedi’i osod fel bod pob eiddo yn cael ei brisio ar yr un pwynt mewn amser – Ebrill 2003 ar gyfer y rhestr ardrethi newydd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2005.

Cyfrifir yr ardrethi sy’n daladwy drwy gymhwyso ‘puntdal’ neu ‘luosydd’ i’r gwerth ardrethol. Pennir y lluosydd bob blwyddyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru; roedd yn 45.2c ar gyfer 2012/13 ac mae’n 46.4c ar gyfer 2013/14.

Rhyddhad ardrethi gwledig

Daeth y cynllun ar gyfer rhyddhad ardrethi gwledig i ben ar 31 Mawrth 2007 a chafodd ei ddisodli gan ycynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

Ardrethi busnes ar gyfer eiddo gwag

O 1 Ebrill 2008 y mae deddfwriaeth newydd yn newid yr ardrethi i gael eu codi ar eiddo busnes gwag. Yn ychwanegol at y wybodaeth am ryddhad busnesau bach yma, gallwn gadarnhau erbyn hyn y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gynnig y rhyddhad hwn hyd at 31 Mawrth 2014.

Yn weithredol o 1 Hydref 2010, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno cynllun gwell ar gyfer busnesau bach.

Anfonwch e-bost at counciltax@monmouthshire.gov.uk am fwy o wybodaeth.