Skip to Main Content

Mae ein holl feysydd parcio yn cynnig baeau parcio i’r anabl. Maent yn galluogi deiliaid bathodyn glas i barcio mor agos ag sydd modd at eu cyrchfan a gall deiliaid bathodyn glas barcio am ddim mewn unrhyw fae a farciwyd o fewn y meysydd parcio hyn.

Gellir rhoi hysbysiad tâl cosb os na ddangosir bathodyn dilys.

Mae isafswm cost o £1000 am ddefnyddio bathodynnau’n anghyfreithlon.

Mae’r cynllun yn galluogi deiliaid bathodynnau i barcio’n agos at eu cyrchfan ond dim ond ar gyfer parcio ar stryd mae’r consesiynau cenedlaethol yn weithredol.

Darllenwch am ein hardaloedd parcio i’r anabl

 

Pwy all gael Bathodyn Glas?

Mae’r cynllun bathodyn glas yn rhoi trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio ar gyfer pobl gydag anawsterau cerdded difrifol sy’n teithio un ai fel gyrwyr neu fel teithwyr.

Mae’r cynllun hefyd yn weithredol ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru’n ddall, a phobl gydag amhariad yn y ddwy fraich.

Byddwch yn cymhwyso’n awtomatig os cyflawnwch un o’r meini prawf dilynol:

  • Eich bod wedi cofrestru’n ddall (Nam Difrifol ar y Golwg)
  • Eich bod yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl
  • Eich bod yn derbyn Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) (ar y lefel gofynnol)
  • Eich bod yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel (nid pensiwn anabledd rhyfel)
  • Eich bod wedi derbyn budd-dal cyfandaliad dan dariffau 1-8 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS) ac wedi ardystio fel bod ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n achosi anallu neu anhawster sylweddol iawn mewn cerdded
  • Eich bod wedi derbyn tariff 6 – Cynllun Iawndal Anhwylder Meddwl Parhaol y Lluoedd Arfog (AFCS)
  • Eich bod yn defnyddio cerbyd a gyflenwyd gan Gynllun Motability ar gyfer pobl anabl

Os nad ydych yn cyflawni’r meini prawf uchod, gallech fod yn cymhwyso dan y meini prawf ar ddisgresiwn, cyn belled ag y medrir rhoi tystiolaeth i gefnogi.

  • Plant dan dair oed sydd oherwydd cyflwr meddygol penodol yn golygu bod yn rhaid iddynt gael offer meddygol swmpus gyda nhw bob amser na allai’r plentyn ei gario o amgylch heb anhawster mawr; neu blant dan dair blwydd oed sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu fod angen eu cadw ger cerbyd ar bob amser, un ai ar gyfer triniaeth, neu ar gyfer cludiant i leoliad lle gellir rhoi triniaeth. Daw’r bathodyn i ben y diwrnod yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Mae’n rhaid i riant neu warcheidwad wneud cais ar ran y plentyn a rhoi llythyrau cefnogi gan ymgynghorwyr iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.
  • Plant sydd fel arfer yn gyrru cerbyd heb ei addasu ond sy’n methu gweithredu, neu’n cael anhawster mewn gweithredu, mesuryddion parcio neu offer talu ac arddangos oherwydd amhariadau sylweddol yn y ddwy fraich – er enghraifft anableddau’n gysylltiedig â Thalidomide. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff bathodyn glas ei gyhoeddi ar ddisgresiwn yr awdurdod lleol.
  • Bod gennych anabledd difrifol yn eich dwy fraich, yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd ond yn methu troi’r llyw gyda llaw hyd yn oed os oes nobyn troi.
  • Bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu na allwch gerdded neu’ch bod yn cael anhawster sylweddol mewn cerdded.
  • Eich bod yn methu cynllunio a dilyn taith oherwydd amhariad gwybyddol (e.e. awtistiaeth, dementia, anabledd dysgu, problem iechyd meddwl, anafiadau pen ac yn y blaen) ac angen help rhywun arall. Bydd angen tystiolaeth gefnogi.

Yn yr amgylchiadau hyn, caiff bathodynnau glas eu cyhoeddi ar ein disgresiwn.

Ni fyddwch yn gymwys am fathodyn os:

  • Nad ydych yn cyflawni unrhyw un o’r meini prawf a restrir uchod.
  • Oes gennych anabledd dros dro ac nid parhaol, megis wedi torri eich coes.
  • Bod gennych anhwylder seicolegol nad yw’n achosi anghysur difrifol gyda’ch cerdded ar sail barhaol (os nad ydych yn derbyn Taliad Annibyniaeth Personol ac yn bodloni categori symudedd F ar gyfer cynllunio taith).
  • Mai dim ond gario eitemau megis siopa yr ydych yn cael problemau wrth gerdded.

Sut mae gwneud cais am Fathodyn Glas?

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais os credwch y gallech fod yn gymwys am fathodyn glas.

Gallwch wneud cais ar-lein yn Direct Gov .

Byddwch angen y dilynol i wneud cais am Fathodyn Glas neu i adnewyddu Bathodyn Glas:

  • manylion eich Bathodyn Glas presennol (os oes gennych un)
  • ffotograff digidol neu wedi’i lofnodi
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • tystiolaeth o bwy ydych
  • tystiolaeth preswylio

Os gwnewch gais ar-lein gallwch olrhain eich cais a diweddaru eich manylion neu gallwch ofyn am ffurflen gais gan unrhyw un o’r dilynol:

Drwy E-bost: contact@monmouthshire.gov.uk

Neu drwy gysylltu ag un o’n Hybiau Cymunedol neu Ganolfan Gyswllt ar 01633 644644

Pa wybodaeth fydd angen i mi ei rhoi?

I gymhwyso bydd angen i chi:

Rhoi tystiolaeth o bwy ydych (a all gynnwys un o’r dilynol)

  • Pasbort
  • Tystysgrif Priodas/Ysgariad
  • Trwydded yrru ddilys
  • Partneriaeth sifil/tystysgrif diddymu
  • Tystysgrif geni/tystysgrif mabwysiadu

 

(Mae dogfennau adnabod sy’n cynnwys ffotograff yn well)

 

Rhoi tystiolaeth o’ch cyfeiriad, wedi’i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf

  • Caniatâd i wirio Cronfa Ddata Treth Gyngor Cyngor Sir Fynwy
  • Caniatâd i wirio Cofrestr Etholiadol Cyngor Sir Fynwy
  • Bil Treth Gyngor

Rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol

Os ydych yn gwneud cais dan y Meini Prawf Awtomatig, rhowch y dystiolaeth gefnogi priodol h.y. copi cyfredol o’ch hawl i Lwfans Byw i’r Anabl neu lythyr Taliad Annibynnol Personol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Rhoi 1 ffotograff maint pasbort – gyda’ch enw wedi’i brintio ar y  cefn.

 

Adnewyddu Bathodynnau Glas

Fel arfer mae bathodynnau yn ddilys am dair blynedd (neu lai mewn rhai amgylchiadau) felly bydd angen i chi ailymgeisio a llenwi cais newydd.

Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn y dyddiad gorffen a ddangosir ar y bathodyn i’ch atgoffa bod yn rhaid llenwi ffurflen gais newydd.

Os na chewch lythyr atgoffa, cysylltwch â ni o leiaf 6 wythnos cyn y daw’r bathodyn i ben a gofyn am ffurflen gais.

Os ydych yn symud tŷ, peidiwch anghofio dweud wrthym beth yw eich cyfeiriad newydd.

Os ydych yn symud o Sir Fynwy, bydd y bathodyn yn dal i fod yn ddilys tan y dyddiad dod i ben ond bydd yn rhaid i chi ailymgeisio i’ch cyngor newydd cyn iddo ddod i ben.

Os yw’r cais yn llwyddiannus caiff eich bathodyn newydd ei anfon yn uniongyrchol at eich cyfeiriad cartref.

Dylid mynd â phob bathodyn a ddaeth i ben i’ch Hyb Cymunedol neu ei bostio i’r Ganolfan Gyswllt.

Bathodynnau Glas a gaiff eu Dwyn

Os cafodd eich bathodyn glas ei ddwyn bydd angen i chi hysbysu’r heddlu a byddant yn rhoi cyfeirnod trosedd i chi. Bydd angen i chi wneud cais am fathodyn glas arall.

Bathodynnau Glas a gaiff eu Colli neu Ddifrodi

Os cafodd eich bathodyn ei golli neu ei ddifrodi bydd angen i chi lenwi ffurflen i gael bathodyn glas arall. Codir tâl o £10 am fathodynnau glas arall i gymryd lle rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd.

Pethau pwysig i’w cofio wrth ddefnyddio eich bathodyn glas

  • Mae’n rhaid i’ch Bathodyn Glas gael ei ddangos ar ben y dashfwrdd neu banel ffasgia y cerbyd lle ellir ei ddarllen yn glir.
  • Mae’n rhaid i’r ochr sy’n wynebu’r symbol cadair olwyn wynebu ymlaen fel y gellir darllen y dyddiad dod i ben o’r tu allan i’r cerbyd ac mae’n rhaid gosod amser cyrraedd ar y cloc.
  • Os nad ydych yn dangos y bathodyn yn iawn, yna efallai y rhoddir tocyn parcio i chi.
  • Lle nad oes consensiynau parcio yn cael eu defnyddio, dylid symud bathodynnau/clociau/waledi o’r golwg fel nad ydynt yn rhoi targed i ladron.
  • Os oes swyddog gorfodaeth parcio yn gofyn i chi ddangos y bathodyn iddynt, mae’n ofyniad cyfreithiol i chi wneud hynny. Os na wnewch hynny, gallwch wynebu cael eich erlyn a dirwy o hyd at £1,000.

Camddefnyddio Bathodyn Glas

Pethau pwysig i’w cofio:

  • Mae’n rhaid i chi fod yn deithiwr neu yrrwr y cerbyd bob amser pan ddangosir Bathodyn Glas.
  • Peidiwch â gadael i rywun arall ddefnyddio eich bathodyn i gael parcio am ddim neu well.
  • Ni all gofalwyr, teulu neu ffrindiau ddefnyddio’r bathodyn hyd yn oed pan maent yn gwneud busnes ar eich rhan.
  • Peidiwch â defnyddio eich bathodyn pan mae’r dyddiad wedi dod i ben.
  • Peidiwch â defnyddio eich bathodyn pan mae’r wybodaeth arno yn anghywir neu’n annarllenadwy er enghraifft, os yw wedi pylu.
  • Peidiwch atgynhyrchu neu ganiatau i neb arall atgynhyrchu eich bathodyn.
  • Mae camddefnyddio Bathodyn Glas gennych chi neu berson arall yn drosedd gyda dirwy o hyd at £1000 a diddymu’r bathodyn ar unwaith.
  • Gall swyddogion gorfodaeth parcio atafaelu bathodyn os ydynt yn rhesymol yn credu ei fod yn cael ei gamddefnyddio neu’n ffug, wedi dod i ben, wedi ei ganslo eisoes neu y dylid bod wedi ei ddychwelyd.

Hysbysu am gamddefnyddio Bathodyn Glas

Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd

Mae’r bathodynnau gwedd newydd yn gysylltiedig gyda chronfa ddata newydd o ddefnyddwyr cymwys ledled y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer haws i’r heddlu a wardeiniaid parcio unrhyw le yn y wlad i wirio os yw’r bathodyn yn cael ei ddefnyddio’n ddilys ai peidio.

Ceisiwch gael cymaint o fanylion ag sy’n bosibl o’r bathodyn a ddangosir (rhif cyfres, dyddiad dod i ben ac ati) i’n helpu i ymchwilio a gweithredu os dangosir y cafodd y bathodyn ei gamddefnyddio.

I’ch helpu gyda’ch adroddiad mae nifer o wahanol fathau o dwyll neu gamddefnyddio bathodyn glas.

Camddefnydd gan ddeiliad y bathodyn

  • Defnyddio bathodyn nad yw’n ddilys bellach
  • Defnyddio bathodyn yr hysbyswyd ei fod wedi’i golli neu ei ddwyn
  • Defnyddio bathodyn y gofynnodd Awdurdod Lleol am iddo gael ei ddychwelyd
  • Gadael i ffrind neu berthynas ddefnyddio’r bathodyn
  • Defnyddio bathodyn wedi’i gopïo
  • Newid y manylion ar y bathodyn, er enghraifft, y dyddiad dod i ben
  • Gwneud cais twyllodrus (rhoi gwybodaeth heb fod yn wir ar y cais) neu ddefnyddio bathodyn yn dwyllodrus.

Camddefnydd gan drydydd parti

  • Defnyddio bathodyn rhywun arall (gyda neu heb wybodaeth deiliad y bathodyn) heb i ddeiliad y bathodyn fod yn bresennol
  • Defnyddio bathodyn sy’n eiddo rhywun sydd wedi marw
  • Copïo newid neu wneud bathodynnau
  • Defnyddio bathodyn wedi ei ddwyn
  • Defnyddio bathodyn ffug