Skip to Main Content

Ymgynghoriad Ar-lein ar y Drafft Fap Rhwydwaith Integredig

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn ddeddfwriaeth sy’n torri tir newydd. Fe’i cyflwynwyd yn 2013 gyda’r nod o’i gwneud yn haws i bobl gerdded a seiclo yng Nghymru, yn benodol i hyrwyddo cerdded a seiclo fel dulliau hyfyw o drafnidiaeth ar gyfer teithiau bob dydd megis i siopau, gwaith neu goleg.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal ymgynghoriad ar-lein rhwng dydd Mercher 25 Hydref 2017 a dydd Mawrth 16 Ionawr 2018 ar gam Map Rhwydwaith Integredig Deddf Teithio Llesol (Cymru).

Mae drafft Fap Rhwydwaith Integredig Sir Fynwy yn dangos llwybrau cerdded a seiclo posibl ar gyfer y dyfodol o fewn y sir yn ogystal â chysylltiadau i awdurdodau cyfagos. Bydd y mapiau blaengar hyn yn dangos sut y gellid datblygu’r rhwydwaith presennol yn y dyfodol ac yn dangos cynigion am welliannau i lwybrau presennol. Bydd galluogi mwy o bobl i deithio’n llesol yn golygu y gall mwy o bobl fwynhau manteision iechyd teithio llesol, helpu i ostwng gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, mynd i’r afael â thlodi a helpu ein heconomi i dyfu.

Gofynnwn i chi edrych ar y mapiau a gynigir a llenwi arolwg byr. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 16 Ionawr 2018 ac wedyn byddwn yn casglu ymatebion cyn eu hanfon at Lywodraeth Cymru.

Cynhelir arddangosfeydd yr ymgynghoriad yn y lleoliadau dilynol:

  • Dydd Mercher 8 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Canolfan Hamdden y Fenni, Hen Heol Henffordd, Y Fenni NP7 6EP
  • Dydd Iau 9 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Canolfan Addysg Awyr Agored Gilwern, Heol Tŷ Mawr, Gilwern, Y Fenni NP7 0EB
  • Dydd Llun 13 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Llyfrgell Trefynwy, Neuadd Rolls, Stryd Whitecross, Trefynwy NP25 3BY
  • Dydd Mawrth 14 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Swyddfa’r Post Magwyr, Y Sgwâr, Magwyr, Cil-y-coed, NP26 3EP
  • Dydd Mercher 15 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Hyb Cymunedol/Llyfrgell Brynbuga, 35 Stryd Maryport, Brynbuga NP15 1AE
  • Dydd Gwener 17 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Llyfrgell Cas-gwent, 9 Stryd Banc, Cas-gwent NP16 5EN
  •  Dydd Mawrth 21 Tachwedd, 9:30am – 4:00pm – Llyfrgell Cil-y-coed, 6 Heol Casnewydd, Cil-y-coed NP26 4XF

Caiff ymatebion eu trin yn gyfrinachol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.