Skip to Main Content

Gall Rheoli’r Rhwydwaith Priffyrdd ddynodi strydoedd penodol (neu ran o strydoedd) fel rhai sy’n ‘sensitif i draffig’. Mae stryd sy’n sensitif i draffig yn un lle y bydd unrhyw waith yn creu oedi a phroblemau teithio annerbyniol i chi ar adegau penodol.

Gallwn osod oriau ac amodau gwaith ar unrhyw un sy’n gweithio ar y briffordd, fel y gallwn gyfarwyddo a chyd-drefnu gwaith yn effeithiol. Gall y cyfyngiadau hyn fod ar adegau penodol o’r dydd neu yn ystod rhai diwrnodau’r wythnos neu’r flwyddyn.

Mae Rheoli’r Rhwydwaith Priffyrdd yn cysylltu’n agos â’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch; mae’r grŵp hwn yn cynnwys y Gwasanaethau Brys, Traffig, Priffyrdd a Thrwyddedu, i enwi ond ychydig. Mae’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod digwyddiadau sydd ar y gweill a’r materion traffig sydd ynghlwm yn fanwl iawn. Dyma’r rhestr ddiweddaraf o ddigwyddiadau i’w chyhoeddi.