Os dymunwch yrru cerbyd hacnai neu gerbyd hur preifat, mae angen i chi wneud cais am drwydded gyrrwr hur preifat/cerbyd hacnai.
Mae cofrestr o’r holl yrwyr hur preifat/cerbydau hacnai ar gael. Cysylltwch â’r adran drwyddedu i drefnu apwyntiad os dymunwch weld y gofrestr yma.
Sut mae cael trwydded?
Cyn y medrir rhoi trwydded, mae’n rhaid i’r cyngor fodloni ei hun fod yr ymgeisydd yn berson ‘addas a phriodol’ i ddal trwydded.
Os ydych yn gwneud cais am drwydded am y tro cyntaf mae’n rhaid i chi:
- Fod yn 21 oed neu fwy
- Bod wedi dal trwydded yrru Brydeinig (deiliaid trwydded yrru EC/EEA gyda gwrthran Prydain Fawr) am o leiaf 12 mis
- Pasio prawf llythrennedd/rhifedd
- Pasio prawf gwybodaeth
- Cwblhau’r ffurflenni cais perthnasol
- Talu’r ffi ofynnol
- Cyflwyno ffurflen cais datgelu i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol. (Medrir cael y ffurflen gais yma a’i dychwelyd i’r Adran Drwyddedu ac nid drwy’r Swyddfa Cofnodion Troseddol)
- Cyflwyno Mandad DVLA i ryddhau gwybodaeth i’r Adran Drwyddedu gan y DVLA
- Pasio archwiliad meddygol a gynhaliwyd gan eich meddyg teulu eich hun.
Bydd rhai euogfarnau troseddol a throseddau moduro yn golygu fod yn rhaid gosod y cais gerbron y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio i gael penderfyniad. Gall hyn olygu oedi wrth brosesu’r cais. Mae gan Gyngor Sir Fynwy bolisi ar y ffordd y maent yn penderfynu ceisiadau gydag euogfarnau. Rhaid nodi fod hon yn ddogfen ganllaw ar gyfer yr Awdurdod.
Sut mae gwneud cais am drwydded?
I wneud cais am drwydded cerbyd hacnai/gyrrwr hur preifat, mae’n rhaid i chi’n gyntaf gynnal prawf Llythrennedd/Rhifedd gydag Addysg Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy (MACE) yng Nghanolfan Addysg Gilwern, Heol Comin, Gilwern. Cysylltwch â’r Adran Drwyddedu i drefnu apwyntiad i gynnal y prawf hwn.
Ar ôl cwblhau’r prawf llythrennedd/rhifedd yn llwyddiannus, bydd MACE yn rhoi pecyn cais i chi ei lenwi a bydd yr Adran Drwyddedu yn cysylltu â chi er mwyn cynnal yr ail brawf, sef y prawf gwybodaeth. Mae’r prawf gwybodaeth yn seiliedig ar amodau’r drwydded, darllen map a thirnodau daearyddol Sir Fynwy.
Gellir dyfarnu trwydded unwaith y cafodd pob prawf ac asesiad eu cwblhau’n foddhaol ac y talwyd yr holl ffioedd.
Dyfernir y drwydded fel arfer am 12 mis a rhaid ei hadnewyddu cyn iddi ddod i ben. Unwaith y dyfernir trwydded, bydd yn ddibynnol ar amodau Cyngor Sir Fynwy. Caiff trwyddedau i weithredu fel gyrrwr cerbyd hur preifat/cerbyd hacnai eu cyhoeddi dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847.
Sut mae adnewyddu trwydded?
Mae’n rhaid i drwydded gyrrwr cerbyd hur preifat/cerbyd hacnai gael ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben. Bydd methu adnewyddu’r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded sefyll prawf gwybodaeth oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sydd ar y drwydded a thorri amodau Cyngor Sir Fynwy.
I adnewyddu eich trwydded mae’n rhaid i chi gyflwyno’r dilynol i’r Adran Drwyddedu
- Mandad DVLA i ryddhau gwybodaeth gan y DVLA i’r Adran Drwyddedu
- 2 ffotograff
- Ffurflen gais adnewyddu
- Y ffi ofynnol