Skip to Main Content

Homemakers Community Recycling

Homemakers logoMae Ailgylchu Cymunedol Homemakers yn casglu eitemau mawr fel dodrefn, gwelyau a nwyddau gwyn ar ran Cyngor Sir Fynwy.

Nod Homemakers yw ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o’r eitemau hyn ag y bo modd.

I gasglu’r eitemau hyn, fe godir tâl o £20 am hyd at 3 eitem, gyda’r gost yn cynyddu am bob eitem ychwanegol. Ceir y prisiau hyn ar wefan Homemakers.

I drefnu casgliad, cysylltwch â Homemakers ar 01873 857618.

 


Monmouthshire Upcycle

01291 408300

https://forestupcyclingproject.com/

Mae Langylchu Sir Fynwy yn casglu celfi a nwyddau trydanol nad yw eu perchnogion eu hangen mwyach yn ardal Cas-gwent. Gweithiwn gyda phobl fregus yn Sir Fynwy a Choedwig y Ddena.

 

British Heart Foundation

Gallwch fynd â chyfraniadau i siopau Sefydliad Prydeinig y Galon neu drefnu casgliad am ddim o’ch cartref.

https://www.bhf.org.uk/shop/donating-goods.aspx

0808 250 0030

British heart foundation logo

 

Sue Ryder Care

Sue ryder logo

18 Stryd Nevill,
Y Fenni,
Sir Fynwy,
NP7 5AA

01873 737 900

Manwerthwr elusennol yn gwerthu nwyddau a gyfrannwyd: lleoliadau’n cynnwys siopau celfi arbenigol.

 

Ailddefnyddio

Rhowch fywyd newydd i’ch hen eitemau trwy eu gwerthu neu eu rhoi i rywun. Mae nifer o wefannau cyfnewid lle gallwch roi neu werthu eich eitemau dieisiau. Mae’r rhain yn cynnwys rhwydwaith Freecycle, Freegle, Gumtree, ac eBay. Neu rhowch eitemau i’ch siop elusen leol i gael eu defnyddio a hefyd gefnogi achos da.

Mae gennym siop ailddefnyddio yng nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Llan-ffwyst, sy’n gwerthu pob math o eitemau cartref. Ein horiau agor yw 10.00am i 3.00pm ar ddyddiau Iau a dyddiau Gwener. Gellir cyfrannu eitemau drwy gydol yr wythnos. https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/