Skip to Main Content

Pryd ddylai farwolaeth gael ei chofrestru?

Dylai marwolaeth gael ei chofrestru o fewn pum diwrnod oni bai bod y crwner yn ymchwilio’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r farwolaeth.

Lle gallaf gofrestru marwolaeth?

Dylai marwolaeth gael ei chofrestru yn yr ardal lle y digwyddodd. Os bu farw’r unigolyn yn Sir Fynwy, mae angen i chi drefnu apwyntiad gyda swyddfa gofrestru’r Fenni.

Gellir darparu manylion am y farwolaeth mewn swyddfa gofrestru arall drwy wneud datganiad. Yn yr achos hwn, ni ellir cyhoeddi’r dogfennau angenrheidiol ar unwaith, ond byddant yn cael eu hanfon atoch yn y post pan fydd y datganiad wedi’i dderbyn. Cysylltwch â’n swyddfa os oes angen gwybodaeth bellach arnoch.

Oes angen i mi drefnu apwyntiad?

Oes, mae angen i chi drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth. Byddwn yn cadw at ein hamseroedd apwyntiadau mor agos ag y bo modd.

Gallwch weld y cofrestrydd yn Ysbyty Neuadd Nevill yn y Fenni neu yn siopau un stop Cas-gwent neu Drefynwy. Gellir gwneud apwyntiadau drwy ffonio’r swyddfa gofrestru ar y rhif isod:

Y Swyddfa Gofrestru
Coed Glas
Y Fenni

Ffôn: 01873 735435

Pam bod angen i mi gofrestru marwolaeth?

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gofrestru marwolaeth. Mae angen i chi gofrestru marwolaeth i gael dogfennau ar gyfer y cyfarwyddwr angladdau ac i ddelio â ystad yr ymadawedig.

Pwy sy’n gallu cofrestru’r farwolaeth?

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r bobl ganlynol, yn nhrefn blaenoriaeth, gofrestru marwolaeth:

  • perthynas a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • perthynas
  • rhywun a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • meddiannydd y fangre lle y digwyddodd y farwolaeth, os oedd ef/hi yn ymwybodol o’r farwolaeth
  • y sawl sy’n trefnu’r angladd (nid yw hyn yn golygu trefnydd angladdau)

Mae’n rhaid i chi ddod â thystysgrif feddygol sy’n datgan achos y farwolaeth. Cewch hon gan y meddyg neu’r ysbyty a oedd yn trin yr ymadawedig.

Faint y mae’n ei gostio i gofrestru marwolaeth?

Nid oes tâl i gofrestru marwolaeth. Fodd bynnag, mae tystysgrifau marwolaeth yn costio £4.00 yr un ar y diwrnod cofrestru. Mae hyn yn cynyddu i £7 y diwrnod canlynol ac i £10 ar ôl 28 diwrnod.

Dweud wrthym unwaith

Pan fydd rhywun yn marw, mae angen cofrestru’r farwolaeth gyda’r Cofrestrydd. Unwaith y mae hyn wedi’i wneud, efallai y bydd rhaid cysylltu â nifer o sefydliadau eraill i roi’r un wybodaeth iddynt.

Gallwn eich helpu chi i roi gwybod i nifer o adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau eraill y cyngor lleol, gan gynnwys:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Asiantaeth Personél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
  • Cyllid a Thollau EM
  • Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau
  • Cynghorau lleol
  • Budd-daliadau tai cyngor
  • Treth y cyngor
  • Llyfrgelloedd
  • Gwasanaethau i oedolion
  • Bathodynnau glas
  • Gwasanaethau etholiadol
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Mae’n rhaid cofrestru’r farwolaeth cyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith yn cael ei gynnig yn ystod yr un apwyntiad, ond os yw’n well gennych ddefnyddio’r gwasanaeth ar ryw adeg arall ar ôl cofrestru’r farwolaeth, gallwch wneud hynny dros y ffôn. Os hoffech siarad â rhywun ar y ffôn, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 085 7308. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm.

I drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth ac i ddefnyddio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith, ffoniwch 01873 735435. Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 4.30pm, ac a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm.