Skip to Main Content

Mae gan gronfeydd dŵr yn y Deyrnas Unedig gofnod diogel arbennig o dda. Mae cronfeydd dŵr yn cael eu cynnal a cadw’n ofalus, sy’n golygu bod llifogydd cronfa ddŵr yn annhebygol iawn o ddigwydd.

Mae mapiau llifogydd cronfa ddŵr wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer cronfeydd dŵr mawr sy’n dal dros 25,000 o fetrau ciwbig o ddŵr. Mae’r rhain ar gael i’ch helpu i gael gwybod os yw’n bosibl i chi gael eich effeithio gan lifogydd cronfa ddŵr.

Am ragor o wybodaeth, gweler: Llifogydd cronfa ddŵr – cwestiynau cyffredin

Cynlluniwch ymlaen llaw

I fod yn barod ar gyfer llifogydd cronfa ddŵr, dylech:

  • Cewch wybod am faint y perygl. Defnyddiwch y mapiau llifogydd cronfa ddŵr i weld a ydych yn byw neu weithio mewn ardal a allai gael ei heffeithio gan lifogydd cronfa ddŵr
  • Cynlluniwch lle byddwch yn mynd os cewch eich dal mewn llifogydd cronfa ddŵr
  • Rhowch fag bach neu becyn llifogydd at ei gilydd sy’n cynnwys pethau y gallai fod angen i chi eu cael mewn argyfwng
  • Cewch wybod pwy fyddai angen i chi gysylltu â hwy a sut byddech yn gwneud hyn
  • Byddwch yn effro ac yn barod i weithredu’n gyflym i gyrraedd lle diogel

Cewch wybod beth i’w wneud

Gallai llifogydd cronfa ddŵr fod yn wahanol iawn i fathau eraill o lifogydd. Gallai ddigwydd heb fawr o rybudd neu ddim rybudd o gwbl, ac efallai y bydd angen i chi adael ar unwaith. Gall fod angen i chi ymateb cyn y gall y gwasanaethau brys eich cyrraedd. Mae’n bwysig eich bod yn:

  • Cadw eich hun ac eraill yn glir o berygl. Symudwch i ffwrdd o’r gronfa ddŵr, gan gadw at dir uwch os gallwch wneud hyn yn ddiogel
  • Sicrhau bod rhywun wedi ffonio 999 os bydd pobl wedi cael eu hanafu neu os oes bygythiad i fywyd
  • Peidio â cherdded neu yrru trwy lifddwr
  • Dilyn cyngor y gwasanaethau brys yn yr ardal
  • Ceisio peidio â chynhyrfu, meddwl cyn gweithredu a cheisio tawelu meddwl pobl eraill
  • Gwirio am anafiadau – gan gofio i’ch helpu eich hun cyn ceisio helpu eraill