Skip to Main Content

Lles anifeiliaid anwes mewn argyfwng

Mae’n bwysig ystyried lles eich anifeiliaid anwes wrth baratoi ar gyfer argyfwng. Os gofynnir i chi adael eich cartref, er enghraifft oherwydd llifogydd, mae angen i chi fod wedi ystyried anghenion eich anifail anwes yn ogystal â’ch anghenion eich hunan.

Os ydych yn cael eich symud i ganolfan orffwys awdurdod lleol, byddwch yn gallu mynd â’ch anifeiliaid anwes – ond byddwch yn gyfrifol am eu gofal tra byddwch yn y ganolfan.

Anifail anwes pwy?

  • Nodwch eich anifeiliaid anwes bob amser gyda thagiau ar eu coleri neu ficrosglodion
  • Dylai tagiau coler arddangos eich enw, rhif ffôn a chyswllt brys. Gall coleri fynd ar goll, ond mae microsglodion yn ffordd ddiogel o sicrhau bod eich anifail anwes yn cael ei nodi trwy fewnblannu dyfais electronig yn ardal ysgwydd eich anifail anwes. Gan y gall anifeiliaid ddianc yn ystod sefyllfa argyfwng, bydd dull o adnabod eich anifail anwes yn barhaol yn cynyddu eich siawns o’i adfer
  • Os ydych wedi cael eich symud ac rydych yn mynd i fyw oddi cartref am gyfnod hir o amser, dylech roi tag dros dro ar eich anifail/anifeiliaid anwes gyda rhif ffôn arno sy’n wahanol i’ch rhif ffôn cartref. Os bydd rhywun yn canfod eich anifail anwes ac yn ceisio ffonio eich rhif cartref, mae siawns dda na fyddwch yno neu na fydd y ffôn yn gweithio
  • Tynnwch sawl llun o’ch anifeiliaid a’u cadw gyda’r papurau yswiriant pwysig y byddech yn mynd â hwy pe byddech yn gorfod gadael eich cartref. Gofalwch eich bod yn cynnwys yn y lluniau unrhyw nodau gwahaniaethol a fyddai’n ei gwneud yn haws i adnabod eich anifail anwes. Gall y lluniau hyn eich helpu i ailgysylltu ag anifail anwes coll os ydych wedi cael eich gwahanu yn ystod argyfwng

A yw eich anifail anwes yn cael triniaeth gan filfeddyg?

  • Os oes angen meddyginiaeth ar eich anifail anwes, cadwch gyflenwad wrth gefn bob amser rhag ofn y digwydd argyfwng a na allwch fynd at eich milfeddyg
  • Cadwch gopïau wrth law o gofnodion meddygol eich anifeiliaid anwes fel bod milfeddygon yn gwybod, os ydynt yn eu trin mewn argyfwng, am unrhyw gyflyrau iechyd blaenorol neu anghenion meddygol

Oes angen symud eich anifeiliaid anwes?

  • Cadwch gludwyr anifeiliaid anwes yn eich cartref rhag ofn y bydd angen i chi adael gyda’ch anifeiliaid anwes. Ar gyfer ymlusgiaid a physgod, cadwch danciau plastig ysgafn y gellir eu defnyddio i gludo anifeiliaid ar frys
  • Yn ychwanegol at eich cyflenwad rheolaidd o fwyd anifeiliaid, cadwch gyflenwad wythnos o fwyd o leaif i’w ddefnyddio yn ystod argyfwng mawr. Dylech barhau i fwydo eich anifeiliaid anwes eu bwyd arferol, gan ei roi allan iddynt mor agos at yr amser arferol ag y gallwch. Trwy eu cadw at eu trefn reolaidd, y gorau y gallwch, byddwch yn helpu i leihau’r straen y gallent fod yn ei theimlo
  • Pan fyddwch yn gadael eich cartref, dylech gymryd hefyd hoff ddanteithion eich anifail anwes. Gall teganau cnoi hefyd helpu i ddifyrru ci sydd rhaid cadw i mewn am hwyrach nag sy’n arferol iddo
  • Os oes rhaid i chi adael eich cartref a na allwch gymryd eich anifeiliaid anwes gyda chi, gosodwch nodyn ar eich drws ffrynt neu ar ddrws eich cegin sy’n dangos y nifer o anifeiliaid anwes sy’n byw yn eich cartref a rhif cyswllt brys rhag ofn y bydd rhaid symud yr anifeiliaid heb eich gwybodaeth. Heb hyn, efallai na fydd achubwyr yn ymwybodol bod anifeiliaid yn y cartref, yn enwedig yn achos cathod a allai guddio pan fyddant yn ofnus
  • Yn gyffredinol, dylech bob amser roi allan digon o ddŵr ffres ar gyfer anifeiliaid anwes sydd wedi’u gadael gartref ar eu pennau eu hunain. Nid yw’n ddoeth i adael bwyd ychwanegol allan, ond gall dŵr ychwanegol diogelu’r anifeiliaid rhag diffyg hylif os byddant yn mynd yn sownd yn y cartref
  • Meddyliwch am eich anifeiliaid anwes yn yr un ffordd ag y byddech yn meddwl am eich teulu!

Os collwch eich anifail anwes yn ystod argyfwng

  • Dysgwch lle mae’r llochesi anifeiliaid a sefydliadau achub lleol yn eich ardal. Efallai y bydd angen i chi ymweld â hwy ar ôl argyfwng mawr i chwilio am eich anifail anwes os ydych wedi cael eich gwahanu
  • Mae’n bwysig dechrau chwilio am anifail coll cyn gynted ag y sylweddolwch ei fod wedi mynd. Gall rhai llochesi gael trafferth i ofalu am nifer fawr o anifeiliaid sydd wedi’u dadleoli ac sy’n cyrraedd yn ystod argyfwng
  • Mae’n bwysig sicrhau y gellir adnabod eich anifail anwes

Oddi cartref – trefniadau ar gyfer eich anifeiliaid anwes?

  • Rhowch wybod i’ch cymdogion, ffrindiau, perthnasau a landlord bod gennych anifeiliaid anwes y gall fod angen gofal arnynt yn ystod argyfwng a na fyddwch o gwmpas
  • Gwnewch yn siŵr bod gan ffrind neu aelod o’r teulu allweddi eich cartref a’u bod yn gyfarwydd â’ch anifeiliaid anwes. Meddyliwch am ddechrau “system cyfaill” yn eich cymdogaeth i sicrhau y bydd rhywun yn bwrw golwg ar eich anifeiliaid os digwydd argyfwng yn eich absenoldeb, a chytuno i wneud yr un peth ar eu cyfer
  • Nodwch nifer o leoliadau posibl lle y gallwch fynd â’ch anifail anwes os oes angen gadael eich cartref. Gallai’r rhain gynnwys lletyau cŵn, clinigau milfeddygol â lleoedd preswyl, cyfleusterau gwastrodi, clybiau cŵn a chathod, a chlybiau hyfforddiant. Peidiwch ag anghofio i ystyried ffrindiau ac aelodau o’r teulu hefyd
  • Chi sy’n gyfrifol am les eich anifail anwes