Skip to Main Content

Mae’r cynlluniau canlynol yn cael eu defnyddio gan y cyngor i sicrhau bod staff, rheolwyr a swyddogion yn yr awdurdod lleol, y gwasanaethau brys a sefydliadau eraill, yn cwrdd â’u cyfrifoldebau gydag ymateb cyffredinol sydd wedi’i gydlynu.

Mae Cynlluniau Argyfwng Cyfarwyddiaeth yn cael eu datblygu a’u cynnal gan gyfarwyddiaethau unigol gyda chymorth y Tîm Cynllunio at Argyfwng. Maent yn cynnwys gweithdrefnau cychwyn a gweithredol er mwyn cynorthwyo staff i gwrdd â chyfrifoldebau argyfwng y cyfarwyddiaethau, fel y cânt eu hamlinellu yn y Cynllun Rheoli Argyfwng a’r Cynlluniau Penodol.

Mae Cynllun Rheoli Argyfwng Cyngor Sir Fynwy yn amlinellu’r modd y mae’r cyngor yn mynd i’r afael â rheoli argyfyngau ac yn darparu gwybodaeth er mwyn arwain a chefnogi’r Tîm Ymateb Brys, a fyddai’n cydlynu ymateb y cyngor.

Mae Trefniadau Ymateb i Argyfwng Mawr Gwent yn esbonio sut y bydd ymateb cyfun yr holl asiantaethau o fewn ardal Heddlu Gwent yn cael ei gydlynu.

Mae’r Cynlluniau Penodol yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer ymateb cyfun gan asiantaethau sydd yn delio gyda pheryglon cydnabyddedig yn yr ardal:

  • Trefniadau Llifogydd Gwent
  • Cynllun Adfer Gwent
  • Cynllun y Gynddaredd Gwent
  • Cynllun ar gyfer Peryglon Damweiniau Mawr i Biblinellau’r Grid Cenedlaethol
  • Cynllun ar gyfer Peryglon Damweiniau Mawr i Biblinellau Wales and West Utilities Cyf.
  • Trefniadau Cyd-asiantaethol ar gyfer Argyfwng Mawr yn Nhwnnel Rheilffordd Hafren
  • Trefniadau Marwdai Dros Dro
  • Cynllun Digwyddiad Cemegol Gwent
  • BAE Systems Glasgoed – Cynllun Argyfwng Oddi ar y Safle
  • Trefniadau Gwacáu a Lloches Gwent
  • Cynllun Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent ar gyfer Marwolaethau Torfol 2011
  • Trefniadau Estynadwy Oldbury Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent
  • Trefniadau Cymorth Dyngarol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent 2011
  • Cynllun Ymateb Gwent ar gyfer Digwyddiad Cemegol, Biolegol, Radiolegol neu Niwclear
  • Trefniadau Cyd-asiantaethol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent ar gyfer Rheoli Ffliw Pandemig
  • Gweithdrefn Llinell Gymorth Argyfwng

Mae Llawlyfr Canolfan Gofal Brys yn ddogfen ganllaw ar gyfer staff awdurdod lleol a’r heddlu, er mwyn hwyluso sefydlu canolfan gofal i’r sawl sydd wedi eu heffeithio, a’u ffrindiau a theuluoedd, yn ystod digwyddiad.

Mae Cyfeiriadur Cysylltiadau Argyfwng Sir Fynwy yn cael ei gynnal gan y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng ac yn cynnwys yr holl rifau cyswllt argyfwng sy’n berthnasol i’r dogfennau uchod.

Os hoffech weld unrhyw un o’r dogfennau uchod, cysylltwch â:

Rheolwr Cynllunio at Argyfwng
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Swyddfa’r Post 106
Cil-y-coed
NP26 9AN

Ffôn: 01633 644092
Ffacs: 01633 644614
E-bost: emergencyplanning@monmouthshire.gov.uk