Skip to Main Content

Mae heriau difrifol yn wynebu cymdeithas; gallant fod yn heriau economaidd yng ngoleuni’r dirywiad ariannol – mae tynhau llinynnau’r pwrs wedi arwain at bwysau cymdeithasol gwirioneddol sy’n debygol o gael eu gwaethygu gan ddiwygio lles.
Mae hefyd heriau amgylcheddol. Mae difrifoldeb y llifogydd helaeth a gafwyd mewn rhai rhannau o Gymru ddiwedd 2012 yn dangos yr effaith y gallai’r newid hirdymor yma ei gael ar sir fel Sir Fynwy lle mae ein gofod gwledig yn un o’n hasedau mwyaf.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cefnogi datblygiad Cynllun Integredig Sengl newydd Sir Fynwy a bydd yn cymryd lle’r Strategaeth Gymunedol, Cynllun Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc presennol yn Ebrill 2013.
Caiff y cynllun ei arwain gan y Bwrdd Gwasanaeth Lleol, sy’n cynrychioli sefydliadau partner sy’n gweithio yn yr ardal. Mae ei aelodau’n cynnwys Prif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Prif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Swyddog Arweiniol a Chadeirydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) ynghyd â Phrif Weithredwr Cartrefi Melin a chynrychiolwyr o’r gymuned a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Rydym wedi gweitho gyda’n partneriaid o’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol i baratoi’r ymgynghoriad hwn. Rhannwn yr uchelgais y gall Sir Fynwy ddod yn lle hyd yn oed mwy arbennig i fyw ynddo, i fagu teulu a heneiddio mewn cymdeithas gefnogol.
Yr agwedd bwysicaf o’r cynllun newydd a’r dull gweithredu yma yw ein bod eisiau i chi fod yn rhan go iawn o sut y meddyliwn am y dyfodol – mae’r heriau’n fawr ac ni all unrhyw un rhan o’r llywodraeth neu bartneriaeth eu trin ar eu pen eu hunain – rydym angen ymateb ehangach gan ein holl gymunedau.
Hoffem i chi ddweud wrthym p’un ai ydym wedi canolbwyntio ar y meysydd cywir ai peidio. Defnyddiwch y ffurflen ymgynghori i ddweud wrth os gwelwch yn dda neu:
• Cysylltu â ni drwy e-bost – davidbarnes@monmouthshire.gov.uk
• Postio eich ymateb atom yn defnyddio’r cyfeiriad dilynol:
Tîm Partneriaeth ac Ymgysylltu
Blwch SP 106,
Cil-y-coed
NP26 9AN
• Anfon eich barn atom drwy @MonmouthshireCC ar Twitter
Daeth y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Cynllun Integredig Sengl i ben ddydd Iau 21 Mawrth 2013.