Skip to Main Content

Sefydlwyd y Gofrestr o Dir Comin a Meysydd Tref a Phentref gyntaf dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965. Mae’r Ddeddf Tir Comin 2006 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cofrestru i barhau i gynnal y gofrestr a sefydlwyd dan y Ddeddf.

Gallwch archwilio’r Gofrestr o Dir Comin a Meysydd Tref a Phentref, ac unrhyw gais yng nghyswllt newid y gofrestr, yn ystod oriau swyddfa arferol. Yr oriau swyddfa yw:

Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am-12.00 canol-dydd a 2.00pm-4.30pm (heblaw am wyliau cyhoeddus).

Gallwch archwilio’r Gofrestr yn:

Adran Arwystl Tir
Cyngor Sir Fynwy
PO Box 106, Caldicot

Gwelliant Cofrestr – Hawliau Tir Comin

Mae Adran 3 Deddf Cofrestru Tir Comin 1965 yn rhoi pŵer cyfyngedig i’r awdurdod cofrestru i newid yr wybodaeth a gedwir yn y gofrestr.

Adran Hawliau: lle caiff hawliau pori eu dyrannu, torri, diddymu neu eu rhyddhau, amrywio neu eu trosglwyddo.

Pryd bynnag y caiff tir gyda hawliau cysylltiedig ei isrannu a’i werthu fel lleiniau ar wahân, Section , rhaid dyrannu rhai hawliau tir comin ar sail pro rata yn ôl nifer yr erwau.

Mae Adran 9 Deddf Tir Comin 2006 yn torri hawliau tir comin (yn amodol ar nifer o eithriadau) yn weithredol yn adsyllol o 28 Mehefin 2005.

Mae’n rhaid i gais i newid Adran Hawliau’r gofrestr gael eu gwneud drwy Ffurflen CR 19 statudol, “Cais am newid y gofrestr yng nghyswllt hawl tir comin”.

Nid oes ffi ar hyn o bryd am wneud cais Ffurflen 19 CR.

Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref ‘Newydd’

Daeth rheoliadau yng nghyswllt Adran 15 Deddf Tir Comin 2006 i rym yng Nghymru ar 6 Medi 2007. Roedd y rheoliadau’n cyflwyno trefniadau interim newydd a ffurflen gais statudol newydd, Ffurflen 44.

Rhaid i geisiadau i gofrestru meysydd ‘newydd’ tref neu bentref gael eu gwneud ar Ffurflen 44 – ‘Cais am gofrestru tir fel Meysydd Tref neu Bentref’ – a gefnogir gan ddatganiad statudol a thystiolaeth bellach. Mae hyn fel arfer yn cymryd ffurf datganiadau tyst.

Nid oes ffi am wneud cais ar hyn o bryd.

Os hoffech fwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw sylwadau am ein gwasanaeth, anfonwch e-bost at Arwystlon Tir neu ffonio 01633 644073/644075.