Skip to Main Content

Fel rheol, caiff hysbysiad o benderfyniad ei gyhoeddi o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud. Pan wrthodir cais, bydd rhesymau clir yn cael eu cyhoeddi i esbonio pam nad yw’n dderbyniol. Taliad am brosesu’r cais yw’r ffi ymgeisio ac ni fydd yn cael ei ad-dalu os yw’r cais yn cael ei wrthod. Bydd y Cyngor yn hapus i drafod newidiadau a allai arwain at benderfyniad ffafriol pe bai cais diwygiedig yn cael ei gyflwyno. Mae’r hysbysiad o benderfyniad yn rhoi cyngor ar sut i apelio. Dim ond yr ymgeisydd sydd â’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu amodau a osodwyd.

Unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi cael gwybod am benderfyniad, caiff yr hysbysiad o benderfyniad ei gyhoeddi ar wefan UK Planning.

Mae rhestr o’r holl benderfyniadau a wnaed yn cael ei chyhoeddi’n wythnosol ac ar gael isod:

  • Ceisiadau sy’n cael eu hystyried
  • Ceisiadau cynllunio wedi’u penderfynu

Ar gyfer unrhyw restrau cofrestredig blaenorol, cysylltwch â’r adran gynllunio.