Bydd gwelliannau sydd wedi eu gwneud yn ddiweddar i Bont a Phorth Mynwy yn caniatáu mwy o fynediad a dehongliadau gwell o strwythur canoloesol unigryw’r dref.
Dathlwyd y broses o gwblhau’r prosiect gyda seremoni agor ar y 1af o Fai 2014, ac fe’i mynychwyd gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd David Dovey a Maer Trefnwy, y Cynghorydd Tref Jeana Hall.
Pont a Phorth Mynwy yw’r unig bont ganoloesol sydd wedi goroesi ym Mhrydain gyda phorth amddiffynedig arno. Mae’r strwythur hanesyddol wedi ei addasu dros y blynyddoedd ond mae’n parhau yn eicon yn Nhrefynwy. Mae’n ymgorffori etifeddiaeth y dref fel caer ar y ffin a thref farchnad ffyniannus.
Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud yn cynnwys
- Atgyweiriadau strwythurol, ‘llenwi’r’ craciau gyda rhodlenni atgyfnerthu dur, adnewyddu gwaith carreg ac ail-gyfeirio, gosod cyflenwad trydan a golau, atgyweirio to, trin y coed a mesurau i helpu atal plâu
- Gwelliannau Diogelwch – amddiffyn balwstradau, golau, rheilen rhaff i gynorthwyo pobl i gerdded ac arwyddion.
- Adfer celfi.
Mae gwelliannau sydd wedi eu gwneud y tu mewn i Borth Mynwy yn caniatáu i ‘lysgenhadon’ gwirfoddol y dref i ddarparu teithiau tywys yn fwy rheolaidd.
Cynllun Dehongli
Mae’r prosiect hefyd wedi cynnwys paratoi ‘Cynllun Dehongli’ ar gyfer Pont a Phorth Mynwy er mwyn esbonio ei bwysigrwydd hanesyddol i ymwelwyr.
Mae panel wybodaeth wedi ei gosod ger y bont a thaflen fanwl ar gyfer ymwelwyr.
Tu mewn i’r Porth, bydd modd i ymwelwyr i wrando ar glipiau sydd wedi eu recordio gan Gymdeithas Sifig Trefynwy, yn nodi cyfnodau allweddol dros yr amser. Byddant hefyd yn derbyn cardiau post am ddim er mwyn eu danfon at ffrindiau a theuluoedd.
Bydd awgrymiadau eraill, megis addurniadau golau a gosod sgript ar y palmant er mwyn adlewyrchu’r hen doll, yn cael eu hadolygu yn hwyrach.
Os hoffech fynd am daith o gwmpas Pont a Phorth Mynwy, cysylltwch gyda staff yn Neuadd y Sir, Trefynwy
Mwy o Wybodaeth
Cynllun Dehongli Terfynol Pont a Phorth Mynwy Mai 2013
Mae’r prosiect hwn wedi ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig fel rhan o ‘Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13’