Skip to Main Content

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am, a chysylltu â, seremonïau priodas, partneriaethau sifil, adnewyddu addunedau, lleoliadau a chostau.

Priodi yn Sir Fynwy

Mae llawer o fannau godidog yn Sir Fynwy lle y gallwch briodi. Gallwch briodi yn Sir Fynwy yn:

  • y swyddfa gofrestru yn y Fenni
  • un o’n lleoliadau cymeradwy
  • neu mewn eglwys neu adeilad cofrestredig

Gallwch ffurfio partneriaeth sifil ym mhob un o’r uchod, ac eithrio yr eglwys neu’r adeilad cofrestredig.

Gellir cynnal seremoni adnewyddu addunedau yn Swyddfa Gofrestru’r Fenni neu mewn lleoliad a gymeradwywyd.

Gweler y rhestr o ffioedd am y costau diweddaraf.

Swyddfa gofrestru yn y Fenni

Mae gan y swyddfa gofrestru yn y Fenni ddwy ystafell y gellir eu defnyddio ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil, y swyddfa gofrestru ar gyfer partïon llai (uchafswm o 10 gwestai), a’r Ystafell Sir Fynwy sydd â lle i 40 gwestai i eistedd a 10 i sefyll, yn ogystal â’r briodferch a’r priodfab. Mae mynediad anabl i’r ddwy ystafell seremoni.

Os archebwch yr Ystafell Sir Fynwy ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth sifil, cewch ddewis o nifer o seremonïau gwahanol. Mae cyplau yn cael defnydd unigryw o’r gerddi ar y penwythnos, sy’n cynnig cyfle delfrydol i rannu gwydraid o siampên gyda gwesteion neu i gofnodi eich diwrnod arbennig mewn lluniau (mae’r mynyddoedd Ysgyryd Fawr a Blorens yn cynnig cefnlun perffaith).

  • Os hoffech chi wneud trefniant dros dro, neu weld yr ystafelloedd, yna gysylltwch â ni.

Y seremoni

Os byddwch yn priodi yn yr Ystafell Sir Fynwy, neu mewn lleoliad a gymeradwywyd, gallwch ddewis un o’n seremonïau. Gallwch hefyd ychwanegu darlleniadau neu farddoniaeth cyn belled nad ydynt yn grefyddol eu naws.

Gellir chwarae cerddoriaeth cyn y seremoni. Gall y briodferch gerdded i mewn gyda chyfeiliant cerddoriaeth, a gall fod cerddoriaeth wrth gerdded allan. Mae’n rhaid i ni gymeradwyo pob darn o gerddoriaeth o flaen llaw.

Unwaith eto, ni all cerddoriaeth fod yn grefyddol.

Os byddwch yn priodi yn y swyddfa gofrestru, gallwch wahodd hyd at 10 gwestai. Mae’r seremoni yn safonol ac mae’n cynnwys yr opsiwn i gyfnewid modrwyau. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cyplau sydd am gael achlysur llai ac yn fwy tawel.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch:

  • Partneriaethau sifil
  • Lleoliadau priodi a gymeradwywyd
  • Ffioedd
  • Awgrymiadau a chyngor defnyddiol wrth baratoi am eich priodas neu bartneriaeth sifil
  • Sut i wneud cais am gopi o dystysgrif

Bydd gan gyplau sydd eisoes mewn partneriaeth sifil yr opsiwn i drosi hynny’n briodas cyn y Nadolig unwaith y cymeradwyir rheoliadau a osodwyd gerbron y Senedd ar 15 Hydref 2014.

Mae’r newid pwysig hwn yn golygu y gall cyplau sydd eisoes mewn partneriaeth sifil eu trosi yn briodas o 10 Rhagfyr eleni. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Cofrestrydd Arolygydd neu ymweld â www.gov.uk