Skip to Main Content

Mae gan Sir Fynwy bedwar pwll nofio yn darparu rhaglen gynhwysfawr sy’n cynnig rhywbeth i bawb, o fabanod a ‘sblaswyr’ i nofwyr difrifol. Mae yna hefyd amrywiaeth o wersi addas ar gyfer pob oedran a gallu, yn ogystal â gweithgareddau hwyliog fel snorcelu, jetiau dŵr, cerddwyr dŵr a theganau gwynt mawr.

Yn gyffredinol, mae’r tymheredd pwll rhwng 28 a 29.5 gradd Celsius, gyda’r tymheredd awyr yn un radd neu ddwy yn uwch. Mae gan bob un o’n pyllau nofio gyfleusterau newid i’r anabl.

Os ydych am wneud ymarfer corff yn rheolaidd, mae nofio’n weithgaredd gwych i’w ddewis. Nid oes angen cyfarpar drud, mae modd ei wneud ar eich pen eich hunan neu gydag eraill, ac mae’n rhoi ymarfer i’r corff cyfan.

Amserlenni nofio

Cynlluniau’r Pyllau Nofio

I gael rhagor o wybodaeth am fesuriadau ein pedwar pwll nofio.

Polisi Diogelwch Plant

Faint o blant sy’n gallu dod gyda fi i’r pwll nofio? Edrychwch ar ein polisi diogelwch plant.