Skip to Main Content

Archebwch eich gweithgarwch hamdden ar-lein!

I gael rhagor o wybodaeth am hyn neu am unrhyw anawsterau yr ydych yn eu cael wrth archebu gweithgaredd ar y rhyngrwyd, anfonwch e-bost at enquiries@monleisure.co.uk neu ffoniwch 01633 644499.

Gallwch hefyd gysylltu â’r ganolfan hamdden yn uniongyrchol i archebu eich gweithgarwch:

Y Fenni 01873 735360
Cil-y-coed 01291 426850
Cas-gwent 01291 635745
Trefynwy 01600 775135

Am archebu ar y we

  • I ddefnyddio’r system archebu ar-lein, rhaid bod gennych gerdyn aelodaeth REACH sy’n gyfredol. Gallwch gael eich cerdyn REACH am ddim yn unrhyw un o’n canolfannau hamdden neu drwy wneud cais ar-lein
  • Ni allwch dalu ar-lein wrth archebu, ond gallwch archebu ar-lein hyd at saith niwrnod o flaen llaw a thalu ar ôl cyrraedd
  • Nid oes modd i chi ganslo eich archeb ar-lein. Ffoniwch y ganolfan hamdden briodol i ddiddymu archebion
  • Nid yw pob gweithgaredd ar gael ar-lein. Os nad yw’r gweithgaredd sydd ei angen arnoch ar y rhestr, ffoniwch y ganolfan briodol i’w archebu

Cymerwch amser i ddarllen ein polisi diddymu isod:
Mae angen rhybudd 24 awr (o fewn ein horiau agor o 7 am i 10 pm dydd Llun i ddydd Gwener ac 8 am i 6 pm dydd Sadwrn i ddydd Sul) er mwyn diddymu unrhyw archeb, neu bydd rhaid talu am gost y gweithgaredd. Os yw’r llogwr yn methu cyrraedd neu heb ddiddymu’r archeb o fewn cyfnod 24 awr, bydd yn gyfrifol am y ffi lawn ar gyfer archebu’r cwrt neu’r weithgaredd. Bydd rhaid talu am daliadau heb eu casglu wrth dalu am gyrtiau dilynol; anfonir llythyrau at y sawl sydd ganddynt ddyledion ac efallai na fydd modd gwneud archebion eraill ar-lein hyd nes telir y ddyled.