Skip to Main Content

Ein blaenoriaeth ym mhob un o’n pedwar canolfan hamdden yw ennyn eich diddordeb mewn iechyd a ffitrwydd.

Yma fe welwch ein hystafelloedd ffitrwydd “uwch”, sydd o’r radd flaenaf, a gallwch gwrdd â’n hyfforddwyr ffitrwydd cyfeillgar a chymwys. Byddant yn mynd â chi ar daith o amgylch y cyfleusterau a thrafod eich anghenion a dyheadau cyn rhoi cyngor i chi ar y math o aelodaeth a fydd yn fwyaf addas ar gyfer eich ffordd o fyw a’r hyn yr ydych yn dymuno ei gyflawni.

Trwy ddefnyddio ein cyfarpar Technogym gwych a system allwedd mywellness, gall eich hyfforddwr fonitro eich cynnydd a’ch helpu i gadw’n frwdfrydig dros gyflawni eich nodau terfynol.

Ein nod yw i wneud eich taith ffitrwydd mor gyfforddus neu anodd ag y dymunwch iddi fod.

Mae ein holl ymgynghorwyr ffitrwydd yn aelodau o Gofrestr y Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol, ac nid yn unig ydynt yn hyfforddwyr campfa cymwysedig, ond maent yn dal amrywiaeth enfawr o gymwysterau iechyd a ffitrwydd eraill yn ogystal â brwdfrydedd dros eu maes arbenigedd – maes y maent yn byw ac anadlu drosto!

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth Hyfforddiant Personol.

Mae’r ystafelloedd ffitrwydd ar agor o 07:00-22:00 ddydd Llun i ddydd Gwener a 08:15-18:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Ffitrwydd i Blant

Gall plant rhwng 11 ac 13 oed ymuno os ydynt yn cael eu hebrwng i’r ystafell ffitrwydd gan riant neu warcheidwad sydd hefyd yn aelod.

Gall plant gael mynediad i’r ystafell ffitrwydd ar eu pennau eu hunain pan fyddant yn 14 oed.

Rhifau cyswllt am fwy o wybodaeth:

Y Fenni 01873 735365
Cil-y-coed 01291 426857
Cas-gwent 01291 635798
Trefynwy 01600 775273