Skip to Main Content

Rydym yn cael problemau gyda’n system taliadau ar hyn o bryd. Mae hyn yn achosi problemau o ran talu ar-lein, talu drwy’r system taliadau awtomatig a thalu drwy’n system endcall. Rydym yn edrych i mewn i hyn. Mae’n wir ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir a byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ceisio gwneud eich taliad yn nes ymlaen. 

Gofynnir i chi nodi na fydd modd gwneud taliadau ar-lein na dros y ffôn oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ddydd Sul 14 Ebrill rhwng 8.00am-4.00pm, ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster

Er mwyn cydymffurfio gyda safonau sicrwydd talu, fel o 15/02/2018 caiff rhai porwyr, os nad ydynt yn hollol gyfredol, eu hatal rhag cael mynediad i dudalen taliadau ar-lein Sir Fynwy. Os effeithir ar eich porwr cyflwynir sgrîn i chi sy’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar sut i ddiewddaru eich porwr rhyngrwyd. Os ydych yn dal i fethu gwneud taliad dull arall yw ffonio ein llinell talu Ffôn Awtomedig – 0800 023 7406

Rydym yn cynnig nifer o ffyrdd i dalu, gan ddibynnu ar sut ydych am dalu.

Debyd Uniongyrchol

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf hawdd a mwyaf diogel i dalu eich biliau yn gyson.  Mae manylion isod am yr hyn yr ydych yn medru talu amdano gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol. Mae taliadau fel arfer yn cael eu casglu yn fisol  ac mae modd dewis dyddiad penodol ar gyfer casglu arian ar gyfer talu am rai gwasanaethau. Cliciwch ar y gwasanaeth perthnasol am fanylion pellach:

Y Dreth Gyngor

Cyfraddau Busnes

Anfonebau Cyngor (Cyf 7)

Anfonebau Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyf 6)

Er mwyn trefnu talu anfonebau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, cysylltwch gyda’n Tîm Incwm Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01633 644772 er mwyn gwneud cais am ffurflen mandad neu er mwyn trefnu debyd uniongyrchol dros y ffôn.

Taliadau Ar-lein

Mae ein cyfleuster talu ar-lein yn eich caniatáu i wneud taliadau yn uniongyrchol ac yn ddiogel i’r Cyngor, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rydych yn medru gwneud taliadau am y gwasanaethau canlynol drwy glicio ar y ddolen isod.

A fyddech gystal â nodi bod nifer fechan o daliadau ar-lein ar hyn o bryd yn methu o ganlyniad i newidiadau sy’n cael eu gwneud yn y diwydiant cardiau talu. Os sylwch ar gamgymeriad tra rydych yn gwneud eich taliad, a fyddech gystal â gwirio bod y taliad heb ei gymryd allan o’ch cyfrif a rhowch gynnig arall gyda cherdyn amgen os yw’n bosibl. Os ydych chi’n dal yn methu â gwneud taliad, a fyddech gystal â chysylltu â ni ar 01633  644644  neu ymweld ag un o’n Hybiau.

Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol: Visa a MasterCard.  Yn anffodus, nid ydym yn medru derbyn cardiau American Express.

Nodwch os gwelwch yn dda ein bod wedi ychwanegu nodwedd 3D er mwyn sicrhau bod taliadau ar-lein yn fwy diogel. Os ydy’ch taliad yn cael ei wrthod neu os ydych yn cael problemau, yna defnyddiwch ein Gwasanaeth Talu  Awtomatig neu mae modd i chi gysylltu gyda’n Swyddfa Incwm ar 01633 644355.

Gwasanaeth Talu Awtomatig Dros y Ffôn

Mae ein cyfleuster talu  awtomatig dros y ffôn ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Y rhif yw 0800 0237406 (bydd rhaid talu cyfraddau lleol am ffonio).  Mae modd i chi wneud taliad am y gwasanaethau canlynol:

  • Y Dreth Gyngor
  • Cyfraddau Busnes
  • Gordaliadau Budd-daliadau Tai
  • Anfonebau’r Cyngor (cyfeirnod yn dechrau gyda 7)
  • Anfonebau Gwasanaethau Cymdeithasol (cyfeirnod yn dechrau gyda 6)

Sicrhewch os gwelwch yn dda bod manylion eich cyfeirnod a’ch cerdyn debyd neu gredyd yn barod.

Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol: Visa a MasterCard.  Yn anffodus, nid ydym yn medru derbyn cardiau American Express.