Skip to Main Content

Sut i wneud cais am le meithrin neu ysgol?

Rhaid i rieni gwblhau ffurflen gais er mwyn cael naill ai lle meithrin neu le mewn ysgol. Mae cyfle i gwblhau cais ar-lein drwy Borthol Dinasyddion Cyngor Sir Fynwy.  Gellir dod o hyd i hwn ar y dudalen ganlynol:

Porthol Dinasyddion

Os ydych yn cael trafferth cael mynediad i’r Porthol Dinasyddion, cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01633 644508 neu e-bostiwch accesstolearning@monmouthshire.gov.ukBydd aelod o’r tîm yn helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Beth os nad wyf yn byw yn Sir Fynwy?

Os nad ydych yn byw yn Sir Fynwy ond yn dymuno gwneud cais i’ch plentyn fynychu ysgol yn Sir Fynwy, bydd angen i chi wneud hynny drwy eich awdurdod cartref (y talwch eich treth gyngor iddynt).

Gweler y manylion islaw:

Beth sy’n digwydd os yw fy nghais yn hwyr?

Caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel rhai hwyr. Caiff y ceisiadau dilynol eu trin dan y trefniadau ar gyfer ceisiadau hwyr.

  • Ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau
  • Lle bydd newid amgylchiadau wedi digwydd ar ôl y dyddiad cau yn effeithio ar y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael

Gofynnir i chi nodi os yw eich cais yn hwyr yna gallai’ch cyfle o gael lle yn eich dewis ysgol yn llai. Mae hyn oherwydd y rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau. Caiff ceisiadau hwyr eu sypynnu yn ôl y mis pan gânt eu derbyn a chaiff y meini prawf ar gyfer pan fo mwyaf o geisiadau nag o leoedd ar gael eu gweithreduFfôn:

01633 644508 Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â the accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Ble dylwn i anfon fy nghais ar ôl ei lenwi?

Ar ôl ei llenwi, dychwelwch y ffurflen gais at:

Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr

Cyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc

Cyngor Sir Fynwy

Neuadd y Sir

Y Rhadyr

Brynbuga

NP15 1GA