Skip to Main Content

Cysylltwch â Ni

Gofynnwch gwestiwn i ni

E-bostiwch ni:  youthservice@monmouthshire.gov.uk

Trydar:  @Mon_Youth

Facebookfacebook.com/MonYouth

 

Rhifau Ffôn y Safleoedd

Prif Swyddfa Brynbuga:  01291 673937

Prif Swyddfa Gilwern:  01873 833200

Canolfan Ieuenctid Brynbuga (Y Llwyfan):  01291 672237

Y Parth:  01291 425427

Central Kaff:  01291 635696

Yr Atig:  01600 772033

Bryn-y-cwm:  01873 859037

 

Mae ein Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc yn Sir Fynwy, gan eu cefnogi wrth iddynt newid o blant i oedolion, o ddibyniaeth i annibyniaeth. Canolbwynt y gwasanaeth yw pobl ifanc, ac yn enwedig pobl ifanc yn dysgu yn eu hamser eu hunain mewn lleoliadau anffurfiol – ac oherwydd eu bod yn dymuno gwneud hynny.

Ein nodau:

  • Gweithio’n hyblyg gyda phobl ifanc fel y gallant barhau i ddysgu drwy gydol eu bywydau;
  • Datblygu eu gallu i chwarae rôl weithredol fel dinasyddion, fel unigolion ac ar y cyd;
  • Cefnogi a datblygu cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau;
  • Gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion pobl ifanc.

Beth yw gwaith ieuenctid?

Mae gwaith ieuenctid yn dechrau gyda phobl ifanc a’u hanghenion, diddordebau a phrofiadau eu hunain. Mae’n adeiladu ar y rhain, gan weithio ar gyflymder y bobl ifanc eu hunain. Mae gwaith ieuenctid yn berthynas wirfoddol lle mae pobl ifanc yn cymryd rhan oherwydd eu bod yn dewis gwneud hynny, ac yn bennaf yn eu hamser eu hunain.

Mae gwaith ieuenctid yn sefyll dros gyfle cyfartal ac yn erbyn gormes. Dylai pobl ifanc gael mynediad at weithgareddau a chyfleusterau waeth beth fo’u rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol neu allu corfforol neu addysgol.

Gall pobl ifanc ddisgwyl:

  • Cymorth i ddod o hyd i wybodaeth sy’n eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus ar faterion sy’n bwysig iddynt;
  • Amgylchedd lle rydynt yn teimlo’n ddiogel, lle gallant gwrdd â phobl ifanc, lle gallant gwrdd â gweithwyr sydd yn hawdd mynd atynt ac yn gefnogol, a lle gallant gael hwyl;
  • Cyfleoedd i gael profiadau cadarnhaol;
  • Cael eu parchu am bwy ydynt – gyda’r disgwyliad y byddant yn trin pobl eraill yn yr un modd;
  • Rhaglen sy’n cynnig ystod eang o brofiadau, cyfleoedd a gweithgareddau sy’n adlewyrchu eu hanghenion, eu syniadau a’u diddordebau;
  • Mynediad at bobl a grwpiau sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, o faterion unigol i faterion byd-eang;
  • Y lle i ddatblygu a phrofi eu safbwyntiau ac agweddau personol ar faterion allweddol;
  • Y cymorth a’r cyfleoedd i’w galluogi i ddatblygu sgiliau newydd;
  • Anogaeth i gyflawni a gwireddu eu potensial.