Skip to Main Content

Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth Tir (NLIS)

Mae NLIS yn gynllun gan y llywodraeth sy’n llwyr gyfrifol am ddarparu gwybodaeth swyddogol electronig ar dir ac eiddo a gedwir gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â ffynonellau swyddogol eraill o ddata, yn cynnwys HMLR, yr Awdurdod Glo a chwmnïau dŵr.

Mae Hyb NLIS yn gweithredu fel porth ar gyfer trawsgludwyr i gael mynediad i wybodaeth ar dir ac eiddo drwy un o sianeli trwyddedig NLIS a restrir islaw. Caiff Hyb NLIS ei reoleiddio gan Land Data.

I gael mwy o wybodaeth ar sut i archebu chwiliad NLIS, ewch i’w gwefan www.nlis.org.uk

Rydym yn cynnal y gofrestr Pridiannau Tir Lleol ac yn cyhoeddi chwiliadau LLC1 swyddogol. Rydym hefyd yn casglu/ymchwilio gwybodaeth i ateb Ymholiadau Con29 a Con 29O yr Awdurdod Lleol.

Ffurflen LLC1

Defnyddir y ffurflen LLC1  i archebu chwiliad ‘swyddogol’ o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol gan yr awdurdod lleol perthnasol a gall ddangos cyfyngiadau ar yr eiddo sy’n rhwymo perchnogion olynol e.e. costau ariannol, gorchmynion cadwraeth coed, hysbysiadau gorfodaeth a dynodiadau adeilad rhestredig.

Ffurflenni CN29 (2016)

Mae’r ffurflen Con29 yn cynnwys ymholiadau atodol yng nghyswllt Cynllunio, Rheoli Adeiladu, Iechyd yr Amgylchedd, Priffyrdd, Gorchmynion Prynu Gorfodol, Draeniad a materion eraill o ddiddordeb i brynwyr cartrefi.

Mae ffurflen Con29 yn cynnwys yr ymholiadau safonol a gyflwynir fel arfer i awdurdod lleol.

Mae ffurflen Con29O yn cynnwys ymholiadau opsiynol ychwanegol y gellir eu cyfeirio at yr awdurdod lleol mewn achosion neilltuol, ac ar dalu ffi atodol, yn dibynnu ar y cwestiynau opsiynol a ddewiswyd.

Cyflwyno Cais Swyddogol – Cais drwy’r Post

Dylid amgáu’r dilynol wrth gyflwyno cais am chwiliad llawn:

Ffurflen LLC1

Ffurflen Con29

Ffurflen Con29O (os oes angen cwestiynau opsiynol)

Cynllun Arolwg Ordnans clir neu gyfwerth gyda chopi, yn dangos maint yr eiddo/tir a’r ardal o amgylch, er mwyn sefydlu ei union leoliad, yn ddelfrydol o 1:1250 gyda chyfeirnod map Arolwg Ordnans neu Dwyreiniad a Gogleddiad.

Y ffi gywir, siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Fynwy. Dylid nodi y gellir dychwelyd neu ohirio chwiliadau os yw’r ffi yn anghywir.

Gwneud Cais drwy E-bost am Chwiliad Swyddogol (LLC1, Con29 a Con29O)

Nid yw ffurflenni swyddogol LLC1, Con29 a Con29O yn orfodol.

Gellir anfon neges e-bost yn cynnwys y cyfeiriad post llawn neu ddisgrifiad o’r tir i gael ei chwilio at landcharges@monmouthshire.gov.uk. Mae’n rhaid i’r e-bost gynnwys copi PDF o’r cynllun yn dangos maint yr eiddo/tir a’r ardal o amgylch, er mwyn sefydlu ei union leoliad. Yn ddelfrydol ar raddfa o 1:1250 gyda chyfeirnod map Arolwg Ordnans, neu Dwyreiniad a Gogleddiad.

Pan gyflwynir drwy e-bost, gellir talu ffi’r chwiliad drwy BACS, cerdyn credyd neu ddebyd, neu siec (fodd bynnag mae’r ffi chwilio cais drwy’r post yn weithredol ar gyfer taliad siec hyd yn oed pan anfonir y cais am chwiliad drwy e-bost).

Beth yw Chwiliad Personol?

Mae chwiliad personol yn chwiliad o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol, a gynhelir yn unol â Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol 1977.

Gall chwiliad eiddo personol fod yn rhatach na chwiliad swyddogol ond dylech roi ystyriaeth i gywirdeb a chyflawnder wrth wneud eich penderfyniad.

Gan fod hon yn ddogfen bwysig yn y broses trosgludo eiddo, mae’r Sefydliad Pridiannau Tir Lleol yn argymell yn gryf bod chwiliad swyddogol llawn yr Awdurdod Lleol yn cael ei brynu bob amser.

Trefniadau Chwiliad Personol

Mae gan unrhyw aelod o’r cyhoedd hawl i archwilio’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol am ddim.

E-bostiwch: landcharges@monmouthshire.gov.uk i gael dolen i’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn ogystal â chyfarwyddiadau ar gyfer defnyddwyr.

Mynediad i Gwestiynau Chwilio Con29

Cofrestri Cyhoeddus a Chofnodion Heb fod yn Gyhoeddus

Mae ein cofrestri cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio gan aelodau o’r cyhoedd rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod oriau swyddau arferol er y cewch eich cynghori i gysylltu â phob adran cyn eich ymweliad er mwyn canfod os oes angen unrhyw drefniadau mynediad arbennig.

Cyngor Sir Fynwy
Blwch SP 106
Cil-y-coed
NP26 9AN

Ffôn: 01633 644644

buildingcontrol@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Rheoliadau Adeiladu

conservation@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Adeiladau Rhestredig, Henebion Hynafol Ardaloedd Cadwraeth

countryside@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Gorchmynion Cadwraeth Coed, Hysbysiadau Gwrychoedd

developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Mabwysiadu Priffyrdd, Cytundebau Adran 38, Hysbysiadau Adran 220, Cofrestr Priffyrdd a Gynhelir ar Draul y Cyhoedd

environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Tir Halogedig, Tai a Hysbysiadau Iechyd

landcharges@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Chwiliadau Eiddo, Cofrestru Pridiannau Tir Lleol, Tir Comin a Grinau Tref/Pentref

planningpolicy@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol

planning@monmouthshire.gov.uk ar gyfer Ceisiadau Cynllunio, Tystysgrifau Cyfreithlondeb, Hysbysiadau Gorfodaeth, Cytundebau Adran 42, Cytundebau Adran 106

I gael gwybodaeth Con29, lle nad oes hawl statudol i archwilio cyhoeddus, mae angen i gwmni chwilio personol gyflwyno cais ysgrifenedig neu drwy e-bost at y gwasanaeth/adran priodol, gan roi manylion geiriad llawn cwestiwn Con29 neu Con29O neu gais arall am wybodaeth. Bydd angen i’r cwmni chwiliad personol i ddynodi’r eiddo/tir a gall fod angen cyflenwi cynllun lleoliad.

Gall fod yn rhaid talu i gael yr wybodaeth yma.

Mae rhai cofnodion heb fod yn gyhoeddus ar gael i’w harchwilio, gweler yr adrannau islaw i gael mwy o wybodaeth a chysylltu â’r gwasanaeth/adran priodol ar gyfer eu trefniadau manwl.

Cwestiynau Chwilio Con29

Mae gwybodaeth a’r data craidd sydd ei angen i ateb y cwestiynau chwiliad Con29 diweddar ar gael yng Nghyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1GA, a swyddfeydd cyngor eraill rhwng dydd Llun a dydd Gwener, yn ystod oriau swyddfa arferol. Gall fod angen hysbysiad ymlaen llaw ac apwyntiad; cysylltwch â’r gwasanaeth cyn eich ymweliad os gwelwch yn dda.

Yn lle hynny, gellir anfon cais drwy e-bost neu ysgrifenedig at yr adran briodol yng Nghyngor Sir Fynwy, Blwch SP 106, Cil-y-coed, NP26 9AN. Cynhwyswch eiriad lawn y cwestiwn os ydych yn e-bostio gwasanaeth yn gofyn am ateb i unrhyw gwestiwn Con29.

1.1(a) i 1.1(i) Ceisiadau Cynllunio, Tystysgrif Cyfreithlondeb, Caniatâd, Gorchmynion a Chytundebau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth Rheoli Datblygu – planning@monmouthshire.gov.uk

1.1(j) a 1.1(k) Rheoliadau Adeiladu

Rheoli Adeiladu – buildingcontrol@monmouthshire.gov.uk

1.1(l) Cynllun Hunanardystiad
Rheoli Adeiladu – buildingcontrol@monmouthshire.gov.uk

1.2 & 3.1 Dynodiadau a Chynigion Cynllunio
Polisi Cynllunio – planningpolicy@monmouthshire.gov.uk

2.2, 2.3, 2.4, 2.5 Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Cefn Gwlad – countryside@monmouthshire.gov.uk

3.3(a), (b), (c) Materion Draeniad (SuDS)
Datblygiad Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk

2.1(a) i (d) Ffyrdd 3.2, 3.4(a) i 3.4(f) Cynlluniau Ffordd Cyfagos
Datblygu Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk

Mae’r cynlluniau/detholiadau mabwysiadu priffyrdd ar gael i’w harchwilio yn rhad ac am ddim/casglu ar ddyddiau Mawrth a Iau, rhwng 2pm a 5pm. I wneud apwyntiad, e-bostiwch y cyfeiriad chwilio personol llawn a chynllun lleoliad at developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk cyn 4pm y diwrnod blaenorol.

Mae angen cynllun safonol cyfredol Arolwg Ordnans neu gyfwerth yn dangos maint y chwiliad personol a’r ardal o amgylch, er mwyn sefydlu ei union leoliad, yn ddelfrydol ar raddfa o 1:1250 gyda chyfeirnod map Arolwg Ordnans, neu Dwyreiniad a Gorllewiniad.

3.5 Cynlluniau Rheilffordd Cyfagos

Datblygu Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk

3.6(a) to 3.6(l) Cynlluniau Traffig
Datblygiad Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk

Ni ddylid byth ddefnyddio Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor i ateb cwestiynau priffordd cymhleth Con29 – nid yw’r cynllun(iau) yn cynnwys  lefel o fanylion cyfredol sydd eu hangen am gywirdeb.

3.7(a) i 3.7(g) Hysbysiadau Heb eu Casglu
Ni chaiff y cwestiwn yma ei ateb yn llawn drwy archwilio’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae angen i geisiadau i’r adrannau dilynol i ddynodi Hysbysiadau nad ydynt wedi eu cofrestru yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
3.7(a) – Rheoli Adeiladu –
buildingcontrol@monmouthshire.gov.uk

3.7(e & g) – Datblygiad Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk
3.7(b, c, d, f)
– Iechyd yr Amgylchedd –
environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk

3.8 Torri Rheoli Adeiladau
Ni chaiff y cwestiwn yma ei ateb drwy archwilio’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
Rheoli Adeiladu –
buildingcontrol@monmouthshire.gov.uk

3.9(a) i 3.9(n) Hysbysiadau, Gorchmynion, Cyfarwyddiadau a Thrafodion dan y Deddfau Cynllunio
Mae’r Gofrestr o Hysbysiadau Stop, Gorfodaeth, a Thorri Amod ar agor i’r cyhoedd eu harchwilio.

Gellir cael manylion yr Hysbysiadau Gorfodaeth, Gorchmynion, Cyfarwyddiadau a Thrafodion eu cael drwy gais ysgrifenedig neu e-bost i Rheoli Datblygu (Gorfodaeth), Rheoli Datblygu (Cadwraeth) a’r adran Cefn Gwlad yng Nghyngor Sir Fynwy, Blwch SP 106, Cil-y-coed, NP26 9AN, gan na chaiff y mater ei gofrestru fel Pridiant Tai Lleol.

Rheoli Datblygu – planning@monmouthshire.gov.uk

Mae’r Gofrestr Gorchmynion Cadwraeth Coed ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio, yn amodol ar archebu apwyntiad gyda’r adran Cefn Gwlad – countryside@monmouthshire.gov.uk

3.10 (a) i (h) Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)

Polisi Cynllunio – planningpolicy@monmouthshire.gov.uk

3.11 Ardaloedd Cadwraeth
Rheoli Datblygu (Cadwraeth) – conservation@monmouthshire.gov.uk

3.12 Prynu Gorfodol
Ni chaiff Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) ei gofrestru fel Pridiant Tir Lleol. Gellir archwilio’r ffeil CPO am ddim ar yr un pryd ag apwyntiad chwiliad personol.
Adran Pridiannau Tir – landcharges@monmouthshire.gov.uk

3.13(a), (b), (c) Tir Halogedig
Ni chaiff y cwestiwn yma ei ateb drwy archwilio’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae’n rhaid archwilio’r Gofrestr Tir Halogedig er mwyn ateb cwestiwn 3.13
Iechyd yr Amgylchedd – environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk

3.14 Nwy Radon
Cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

3.15(a), (b) Asedau Gwerthoedd Cymunedol – Dim yn berthnasol yng Nghymru, nes y’i gweithredir gan Lywodraeth Cymru.

Cwestiynau Chwiliad C29O (Opsiynol)

Mae’r cwestiynau chwiliad Con29 dilynol ar gael yng Nghyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1GA a swyddfeydd eraill o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod oriau swyddfa arferol. Gall fod angen hysbysiad ymlaen llaw ac apwyntiad; cysylltwch â’r gwasanaeth cyn eich ymweliad os gwelwch yn dda.

Yn lle hynny, gellir anfon cais drwy e-bost neu ysgrifenedig at yr adran briodol yng Nghyngor Sir Fynwy, Blwch SP 106, Cil-y-coed, NP26 9AN. Gofynnir i chi ddefnyddio geiriad llawn y cwestiwn Con29O os ydych yn e-bostio gwasanaeth yn gofyn am ateb i unrhyw gwestiwn Con290.

4
Datblygu Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk

5.1, 5.2, 5.3(a) i (e), 6, 11, 12, 13, 14, 15, 17
Rheoli Datblygu – planning@monmouthshire.gov.uk

7
Cefn Gwlad – countryside@monmouthshire.gov.uk

8, 16, 22.1, 22.3
Pridiannau Tir – landcharges@monmouthshire.gov.uk

Gwybodaeth ar gyfer 22.1

Os yw’r eiddo/tir sydd i’w chwilio wedi’i leoli yng Ngilwern, neu i orllewin Gilwern (yn cynnwys Clydach, Maesygwartha, Llanelli Hill, Waunllapria, Daren-felen a Blackrock) mae’n rhaid i chi hefyd gyflwyno cwestiwn opsiynol 22 i Gyngor Sir Powys, sef yr Awdurdod Cofrestru Tir Comin ar gyfer nifer o diroedd comin yn y rhan yma o Sir Fynwy.

22.2
Adran Cefn Gwlad – countryside@monmouthshire.gov.uk

9, 10, 18, 19
Iechyd yr Amgylchedd – environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk

20.1, 20.2
Adran Cefn Gwlad – countryside@monmouthshire.gov.uk

21

Datblygu Priffyrdd – developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk

Nodyn: Daw rhan o Sir Fynwy o dan awdurdodaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Ar gyfer eiddo wedi’i leoli o fewn y Parc Cenedlaethol, caiff cwmnïau chwilio personol eu cyfeirio i gysylltu ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gael gwybodaeth Con29 a mynediad i gofrestri cyhoeddus cynllunio.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Cambrian Way
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP

Ffôn: 01874 624437

Ffioedd Chwilio am Bridiannau Tir Lleol – ar waith o’r 1af Ebrill 2023 (gan gynnwys TAW lle bo’n berthnasol)

(Cyfarwyddeb CThEM bod TAW yn gymwys i’r rhan Con29, Con290, a rhan Con29 o’r ffi cyfeiriad/llain o dir ychwanegol)

Ffurflenni Chwilio Swyddogol Safonol (LLC1 a Con29) – Cais drwy’r post – £168

Ffurflenni Chwilio Safonol (LLC1 a Con29 – cyflwyniad NLIS Hub neu e-bost a cherdyn neu daliad BACS – £166

Chwiliad y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig – ffurflen LLC1 (cais post, ffi statudol yng Nghymru) – £6

Chwiliad y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig – ffurflen LLC1 (cyflwyniad NLIS Hub neu e-bost a cherdyn neu daliad BACS, ffi statudol yng Nghymru) – £4

Ffi Cyfeiriad, Eiddo neu Lain Tir Ychwanegol – £73 yr un

Ffurflen Ymholiadau Dewisol Con29O (cwestiynau rhif 4 i 22) – £21.60 y cwestiwn

Chwiliad Personol o’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol – Am Ddim

Cost am Gyflenwi Gwybodaeth Amgylcheddol dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 – £54 yr awr / £13.50 fesul 15 munud neu ran o hynny.

Polisi Canslo

Rhandaliad 50% o ffi’r chwiliad, cyn belled nad oes unrhyw un o wasanaethau/adrannau’r cyngor wedi ateb unrhyw un o gwestiynau chwiliad Con29. Fel arall dim ad-daliad.

Dim ad-daliad ar gyfer chwiliad LLC1 yn unig a gaiff ei ganslo.

Ffioedd, Gwybodaeth a Pholisïau Ychwanegol

Ymholiadau ysgrifenedig ychwanegol gyda chwiliad swyddogol. Dylech anfon eich cwestiynau ysgrifenedig eich hun yn uniongyrchol at yr adran briodol. Cysylltwch â’r adran Pridiannau Tir i gael canllawiau.

Ni chodir tâl ar y ffi chwiliad LLC neu ran LLC1 y ffi cyfeiriad/parsel tir ychwanegol.

Ffoniwch os dymunwch gael gymorth gyda chyfrif unrhyw ffioedd.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddog Pridiannau Tir
Cyngor Sir Fynwy
Blwch SP 106
Cil-y-coed
NP26 9AN

DX 131331 USK 2

E-bost: landcharges@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644075, 644073