Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo sefydlu Model Darpariaeth Amgen i sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy ar gyfer ei wasanaethau twristiaeth, hamdden, diwylliant a’r gwasanaeth ieuenctid. Bydd y model newydd yn sicrhau y gall y gwasanaethau hyn ffynnu ac ymateb i’r anghenion cyfredol a dyfodol, disgwyliadau ac uchelgais cymunedau Sir Fynwy. Cafodd adroddiad a drafodwyd yn y cabinet ar 29 Ionawr ei gadarnhau x gan gyfarfod arbennig o’r cyngor heddiw (dydd Iau 15 Chwefror).

Mae’r penderfyniad yn nodi diwedd gwerthusiad hir ac eang o opsiynau i sicrhau dyfodol gwasanaethau gwerthfawr sy’n hanfodol ar gyfer llesiant a chyfleoedd bywyd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i’r sir.

Bydd y model yn galluogi’r gwasanaethau i weithredu mewn partneriaeth agos gyda’r cyngor dan fantell cwmni masnachu yn dilyn egwyddor Teckal. Mae hyn yn nodi fod yn rhaid i’r awdurdod lleol reoli’r holl gyfranddaliadau yn y cwmni a rhaid iddo hefyd weithredu rheolaeth dydd-i-ddydd effeithlon dros ei fusnes. Bydd y strwythur yn rhoi atebolrwydd llawn i’r cyngor drwy’r cytundeb rheoli, gan roi rhyddid entrepreneuraidd i’r model a sicrhau fod y sefydliad yn gweithredu mor effeithol ag sydd modd. Mae hefyd yn rhoi manteision statws elusennol annibynnol ar gyfer peth o’r ddarpariaeth.

Bydd y model yn cwmpasu gwasanaethau hamdden, diwylliant, addysg awyr agored a chefn gwlad a’r gwasanaeth ieuenctid yn ogystal â rheoli safleoedd sy’n darparu ein cynnig twristiaeth. Mae’r cyngor yn darparu gwasanaethau hamdden o bedwar safle gyda gweithgareddau addysgol awyr agored ar gael mewn tair canolfan ac yn rhedeg gwasanaethau diwylliannol a thwristiaeth yn y Fenni, Trefynwy, Cil-y-coed a Chas-gwent. Yn ogystal, mae gwasanaeth cefn gwlad y cyngor yn goruchwylio rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus mawr yn ogystal â safleoedd hamdden yn darparu cyfleoedd awyr agored ar gyfer cymunedau ac ymwelwyr Sir Fynwy.

Rhagwelir y caiff y model newydd ei lansio ar 1 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth a hamdden: “Mae’n debyg fod y mesur hwn yn cynnwys y newid mwyaf mewn darpariaeth gwasanaeth yn ystod tymor y cyngor hwn. Mae pwysau ariannol cynyddol wedi golygu fod ein gwasanaethau twristiaeth, diwylliannol a hamdden a’r gwasanaeth ieuenctid wedi gorfod torri eu costau er mwyn i ni fedru rhoi blaenoriaeth i feysydd hanfodol addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd cyllidebau eu torri o £6.5m yn 2010 i £4.4m ar hyn o bryd, ond mae gwasanaethau twristiaeth, diwylliannol, hamdden a ieuenctid yn angenrheidiol ar gyfer lles ein cymunedau – ac ni allwn dorri ymhellach heb fygwth gostwng gwasanaethau, cau safleoedd a cholli swyddi.”

Ychwanegodd: “Mae derbyn gwasanaethau cyhoeddus da yn bwysig iawn i aelodau’r cyhoedd a chredaf y bydd y gwaith sylfaenol a wnaed yn y ddwy flynedd ddiwethaf i gyflwyno’r model hwn yn rhoi’r canlyniad gorau posibl. Bydd y newidiadau a gytunwyd mewn strwythur yn rhoi’r hyder i’r gwasanaethau hyn i gynllunio ymlaen gyda chyllidebau wedi eu sicrhau.”

I gael manylion pellach am Fodel Darpariaeth Amgen Sir Fynwy ar gyfer twristiaeth, hamdden, diwylliant a gwasanaethau ieuenctid, cysylltwch ag Ian Saunders, Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant a Gwasanaethau Ieuenctid – IanSaunders@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 07876 545793.