Skip to Main Content

Mae Llywodraeth y DU (Y Weinyddiaeth Amddiffyn) wedi sefydlu Cronfa Cyfamod er mwyn dosbarthu £10 miliwn y flwyddyn yn barhaus o 2015/2016 ymlaen, er mwyn ariannu prosiectau sy’n cefnogi amcanion y Cyfamod Lluoedd Arfog ac yn benodol i ariannu prosiectau sy’n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn yn cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â Grŵp Cyfeirio Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r Gronfa Cyfamod bellach wedi ei chyfarwyddo i sefydlu etifeddiaeth barhaol ar gyfer gwaith ac egwyddorion y Cyfamod Lluoedd Arfog. Felly mae’n bwysig bod y cyllid yn cael ei ganolbwyntio a’i gyfeirio’n deg. Nodwyd pedair thema gyffredinol gan y Grŵp Cyfeirio y mae’n rhaid i’r Gronfa Cyfamod eu hystyried yn awr, ac yn y dyfodol, wrth wneud penderfyniadau.

Y rhain yw:

  • Gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn wasanaethau craidd i gyn-filwyr;
  • Dileu’r rhwystrau i fywyd teuluol;
  • Cymorth ychwanegol ar ôl gwasanaeth i’r rhai sydd angen help;
  • Mesurau i integreiddio cymunedau’r Lluoedd Arfog a sifiliaid a chaniatáu i gymunedau’r Lluoedd Arfog gyfranogi fel dinasyddion.

Bydd y Gronfa Cyfamod yn ymgynghori â’r Grŵp Cyfeirio ar flaenoriaethau a fydd yn cefnogi un neu fwy o’r themâu yn flynyddol.

Bydd yr oruchwyliaeth strategol a gwneud penderfyniadau o ran derbyn y cyllid yn cael ei wneud gan Banel y Gronfa Cyfamod sy’n cynnwys aelodau a benodwyd yn briodol.

Bydd gweithrediad a rheolaeth dydd i ddydd y Gronfa Cyfamod yng ngofal tîm grantiau gweithredol.

Bydd y Gronfa Cyfamod yn rhoi grantiau (cyfalaf a/neu refeniw) i sefydliadau mewn ymateb i geisiadau, a bydd y grantiau yn cael eu dyrannu yn unol â meini prawf clir, gosodedig a thryloyw yn dilyn proses o wneud penderfyniadau a gytunir ymlaen llaw gyda Phanel y Gronfa Cyfamod.

Amserlen ar gyfer Ariannu Cronfa Cyfamod

Caiff yr amserlen lawn a’r blaenoriaethau newydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2016- 2017 eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ddechrau mis Mawrth 2016, a bydd porth ceisiadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn agor ar ddechrau mis Mai, gyda’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar ddiwedd mis Mehefin. Bydd yr holl ddyddiadau yma a mwy, yn cael eu cadarnhau ym mis Mawrth.

Mae dau lwybr ariannu:

  • grantiau bach, ar gyfer ceisiadau hyd at uchafswm o £20,000 a
  • grantiau mawr, ar gyfer ceisiadau rhwng £20,001 a £500,000.

Bydd y Bwrdd Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol, a reolir gan Bencadlys Brigâd 160 y Troedfilwyr yn Aberhonddu, yn derbyn ceisiadau lleol o Gymru ar gyfer ymgynghoriad a thrafodaeth ymysg fforymau Lluoedd Arfog rhanbarthol a lleol er wyn pennu addasrwydd ac angen.

Canllawiau a Ffurflenni

Mae prif dudalen y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Ariannu’r Cyfamod ar gael yn

www.gov.uk

Arolygon ar-lein yw’r ffurflenni cais. Wrth i chi gwblhau eich cais dylech gyfeirio at y canllawiau grantiau bach neu fawr perthnasol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y siawns gorau o lwyddo. Os hoffech weld rhestr o’r cwestiynau a ofynnir ar bob un o’r ffurflenni, gallwch ddod o hyd iddynt ar y dudalen canllawiau.

Canllaw grantiau bach y Gronfa Cyfamod (PDF)

Canllaw grantiau mawr y Gronfa Cyfamod (PDF)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sydd heb eu cynnwys yn y canllawiau neu’r ‘cwestiynau cyffredin’, yna peidiwch oedi rhag cysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn trwy anfon e-bost at COVENANT-GrantTeamMailbox@mod.uk.