Skip to Main Content

Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio Tir yn Heol Cas-gwent, Rhaglan

Gorchymyn Cynllunio Tref a Gwlad (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

HYSBYSIAD DAN ERTHYGL 2D

 

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn y dyfodol agos yn cyflwyno cais cynllunio am

ddatblygu tir yn Heol Cas-gwent, Rhaglan ar gyfer hyd at 45 Annedd.

Mae’r wefan hon yn rhoi cyfle i breswylwyr, grwpiau cymunedol a lleol a’r holl ymgyngoreion statudol i weld gwybodaeth yn gysylltiedig â’r cais cynllunio, yn cynnwys crynodeb ac ymateb i’r digwyddiad ymgynghori cyhoeddus diweddar a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018 yn Neuadd Hen Ysgol Rhaglan. Gan ddilyn y dolenni islaw, gallwch ganfod y dogfennau dilynol:

 

 

Bydd copi caled o’r wybodaeth uchod hefyd ar gael i’w gweld yn Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. Bydd yr wybodaeth ar gael i’w gweld rhwng 0900 a 1630 o’r gloch.

Gwahoddir ymgyngoreion i roi sylwadau uniongyrchol ar y datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno’r cais cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol. Yn unol â gofynion erthygl 2E Cynllunio Tref a Gwlad (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, os dymunwch roi sylwadau ar y datblygiad arfaethedig cysylltwch â Nicola Sully, yr asiant cynllunio yn nsully@alderking.com neu ysgrifennu at Pembroke House, 15 Pembroke Road, Bryste/Bristol, BS8 3BA. Dylid nodi y dylai’r holl sylwadau gael eu cyflwyno erbyn 12 Ebrill 2018 fan bellaf.