Skip to Main Content

Ar ddydd Iau, 13eg Rhagfyr, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Fynwy Bolisi Cyfeillgar i Faethu newydd.

Bydd y polisi newydd yn berthnasol i bob gweithiwr sy’n maethu’n uniongyrchol drwy wasanaeth y Cyngor, sef Gwasanaethu Maethu Cymru Sir Fynwy neu wasanaeth unrhyw Awdurdod Lleol arall.

Bydd gan weithwyr fynediad i hyd at bum diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i alluogi gofalwyr maeth neu bobl sy’n cael eu hasesu i ddod yn ofalwyr maeth i fynychu cyfarfodydd perthnasol, hyfforddiant, ymweliadau â’r cartref neu anghenion cymorth eraill. Bydd gweithwyr sy’n Warchodwyr Arbennig yn gallu cael hyd at 2.5 diwrnod o wyliau ychwanegol i’w galluogi i fynychu cyfarfodydd perthnasol, mynychu hyfforddiant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n diwallu anghenion y plentyn yn eu gofal.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Gall gofalwyr maeth wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd person ifanc, a gall hyn fod mewn cyfnod pan eu bod ar eu mwyaf bregus. Mae’r polisi hwn yn caniatáu i ni fel Cyngor i gefnogi ein gweithwyr pan fyddant yn dod yn ofalwyr maeth ac yn y camau cyntaf o groesawu plentyn i’w cartref.  Fel Cyngor a chymuned ehangach, rydym yn gyfrifol am gefnogi ein gilydd a darparu’r dechrau gorau posibl i fywyd plentyn/person ifanc.  Rwyf wrth fy modd bod y polisi hwn wedi cael cefnogaeth lawn y Cabinet.

“Yn wir, os ydych yn byw yn Sir Fynwy ac yn gallu darparu cartref, cysylltwch â’n tîm.”

Drwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy, gallwch helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn eu cymuned ac yn agos at y bobl a’r lleoedd sy’n bwysig iddynt. Bydd tîm di-elw Maethu Cymru Sir Fynwy wrth eich ochr bob cam o’r ffordd, gan ddarparu rhwydwaith o gymorth sy’n cynnwys eich gweithiwr cymdeithasol ymroddedig, mynediad at amrywiaeth eang o hyfforddiant yn ogystal â system cyfeillio a mentora, grwpiau cymorth rheolaidd, mynediad i’n gwasanaeth seicoleg a therapi, cymorth y tu allan i oriau yn ogystal â ffioedd a lwfansau i dalu eich costau a mynediad i ystod o fuddion eraill megis nofio am ddim ym mhyllau Cyngor Sir Fynwy a llawer iawn mwy!

A ydych chi’n medru darparu cartref i blentyn neu berson ifanc? Cysylltwch â ni heddiw: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni

Tags: , , ,