Cofiwch
Mae'r cefn gwlad yn gartref ac yn fan gwaith i lawer o bobl. I'ch helpu chi i gael cymaint o fwynhad ag sy'n bosibl o gerdded yn y rhan olygfaol o Sir Fynwy ac i sicrhau y bydd cerddwyr yn parhau i gael eu croesawu yn y cefn gwlad, rydym ni'n argymell y canlynol:-
-
Byddwch yn barod. Pan fyddwch chi'n cerdded gwisgwch esgidiau cadarn a dillad twym diddos.
-
Byddwch yn gyfrifol. Er eich bod yn dilyn hawl tramwy cyhoeddus, mae'r rhain yn croesi tir preifat.
-
Cadwch at y llwybr,
-
Caewch glwydi y tu ôl i chi a chadw cwn ar dennyn pan fydd anifeiliaid fferm mewn caeau.
-
Ewch â'ch sbwriel adref, peidiwch â pharcio ceir lle y gallant fod yn rhwystr i breswylwyr lleol neu fynediad at gae.
-
Byddwch yn ofalus. Mae darnau byr o rai llwybrau cerdded neu farchogaeth gyhoeddedig yn dilyn lonydd cul cefn gwlad neu'n croesi prif ffyrdd. Byddwch yn arbennig o ofalus ger troadau a cherddwch i gyfeiriad y traffig yn dod atoch.
-
Byddwch yn wybodus. Cynlluniwch eich taith gerdded a sicrhau bod gennych chi fab neu arweinlyfr addas.
-
Parchwch y cefn gwlad, bywyd gwyllt a phobl sy'n byw yn y cefn gwlad a sicrhewch nad yw eich gweithgareddau chi'n achosi difrod neu'n amharu'n ormodol.
Gall defnyddwyr:-
-
Basio a phasio eto ar Hawl Tramwy Cyhoeddus;
-
Stopio i edrych ar yr olygfa, cymryd llun, eistedd i lawr i fwrw blinder ac ati;
-
Mynd â phram, cadair wthio, cadair olwynion, ond dylech chi ddisgwyl ddod ar draws camfâu ar lwybrau traed;
-
Mynd â chi, ar dennyn os yn bosibl, ond bob tro o dan reolaeth gaeth;
-
Cymryd gwiriad byr o gwmpas rhwystr anghyfreithlon;
-
Symud rhwystr anghyfreithlon yn ddigonol i fynd heibio iddo.
Ni chaiff defnyddwyr:-
-
Grwydro dros dir yn ôl eu dymuniad, gan fynd i ffwrdd o linell yr Hawl Tramwy oni bai eu bod yn pasio rhwystr;
-
Defnyddio cerbyd ar gilffordd os nad yw wedi'i gofrestru, gyda threth ac yswiriant, na gyrru yn fyrbwyll neu heb ystyriaeth;
-
Defnyddio Hawl Tramwy at unrhyw bwrpas arall ond fel hawl tramwy;
-
Gosod byrddau, cadeiriau neu offer picnic;
-
Achosi unrhyw ddifrod diangen;
Eich hawliau:-
-
Nid yw diffyg defnydd yn cael effaith gyfreithiol ar fodolaeth hawl tramwy;
-
Rhaid i chi adael tir nad oes gennych chi hawl mynediad cyfreithiol iddo os gofynnir i chi gan y perchennog neu ei gynrychiolydd;
-
Dylai Hawl Tramwy fod yn ddigon llydan i ddau gerddwr basio yn gyfforddus. Dylai Llwybr Ceffylau fod yn ddigon llydan i ddau geffyl fod yn gallu pasio ei gilydd yn gyfforddus. Gall y Map Swyddogol, fodd bynnag, nodi lled llwybr o dan rai amgylchiadau;
-
Rhaid i feicwyr a marchogion ceffylau beidio â defnyddio llwybrau traed (ac eithrio gyda chaniatâd perchennog y tir);
-
Rhaid i feicwyr ildio i farchogion a cherddwyr ar lwybrau ceffylau;
-
Pan fyddwch yn cerdded neu'n marchogaeth mewn grwp, dylech deithio mewn rhes lle bydd angen hynny, (er enghraifft drwy gnydau), a pheidiwch ag ymledu y tu hwnt i led y llwybr.
http://www.cprw.org.uk