Y Meini Prawf
Er mwyn sicrhau gwerth yr arian sy'n cael ei wario rydym yn ystyried llawer o ffactorau i drefnu'r rhaglen gwella priffyrdd yn ôl blaenoriaeth. Ymysg y ffactorau hyn ceir :
* Arolygon Cyflwr Ffyrdd
* Ystadegau o Ddamweiniau
* Ffyrdd y mae'r cyhoedd yn cyfeirio atynt h.y. ceisiadau am wasanaeth
* Dosbarth y ffordd - faint o ddefnydd a wneir ohoni
* Llwybrau teithio bysus
* Prif fodd mynediad i ganolfannau ymgasglu neu gyflogaeth
* Llwybrau teithio eraill sydd ar gael
Mae'r math o waith a wneir yn dibynnu'n helaeth ar gyflwr y droedffordd neu'r briffordd, ond rhoddir ystyriaeth hefyd i'r lleoliad h.y. ardal drefol neu wledig, llif y traffig ayb.
Hanfodion Dylunio Ffyrdd
Mae ffordd fodern yn cael ei dylunio fel ei bod yn gwrthsefyll effeithiau'r tywydd a dwysedd y traffig sy'n ei defnyddio. Mae'r DU yn un o'r ychydig wledydd yn y byd lle mae rhyw fath o wyneb pob tywydd ar bron bob un o'i ffyrdd. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o'r isffyrdd gwledig
wedi cael eu datblygu o draciau diwyneb, eu siapio â cherrig a'u gorchuddio â thar a cherrig mân.
Mae'r diagram isod yn dangos bod gan ffordd nifer o haenau o drwch amrywiol ac o ddeunydd amrywiol - system a ddyluniwyd i wasgaru'r baich a achosir gan lwyth y traffig.
Mae haen yr wyneb yn atal cerbydau rhag sgidio, yn cadw'r ffordd yn wastad, ac yn atal dwr rhag gwanhau'r haenau sylfaenol is sy'n cynnal adeiladwaith y ffordd. Mae trwch a chyfansoddiad pob haen yn dibynnu ar gryfder yr haen isaf ac ar ddwysedd y traffig.
Triniaethau
Dyma'r triniaethau mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar rwydwaith yr Awdurdod:
* Ffyrdd
o Rhoi wyneb Micro-asffalt ar y ffordd
o Coltario
o Arwynebau tenau (Asffalt Cerrig Mastig)
o Ailwynebu 'Traddodiadol'
o Ailadeiladu
* Llwybrau Troed
o Cerrig Palmant
o Palmantu Bloc
o Adeiladu Hyblyg (Bitwmen Macadam)
o Selio â Llaid
Rhoi Wyneb Micro-asffalt ar y Ffordd
Mae micro-asffalt yn ddeunydd gweddol rad sy'n cynnwys emylsiwn bitwmen a llwch cerrig mân, ac mae'n cael ei daenu'n oer gyda pheiriant palmantu. Mae'n selio'r wyneb ac yn gwella gallu'r ffordd i wrthsefyll sgidio, ac yn clustogi pwysau yn dda iawn. Bydd yr wyneb fel arfer yn para rhwng 5 a 10 mlynedd.
Fel arfer, rhoddir Wyneb Micro-asffalt ar y safleoedd a ganlyn
a) Ffyrdd lle mae cwmni nwy/trydan/dwr wedi bod yn tyllu, neu lle mae olwynion cerbydau wedi dechrau gadael eu hôl yn y ffordd. Bydd wyneb micro-asffalt yn cysoni, neu'n gwastatáu tyllau yn yr haen wyneb a'r haen selio i drwch o oddeutu 10-30mm.
b) Ffyrdd ag ymylon, lle nad yw'r ymylon yn uchel iawn. Gellir gwasgaru Micro-asffalt yn fân i drwch o 10mm yn y ffos, neu gellir peidio â llenwi'r ffos a chadw uchder presennol ymyl y ffordd, gan osgoi gwaith cynllunio'r ffos.
c) Safleoedd lle y ceir lefel uchel o bwysau e.e. cylchfannau, troadau cas, ac elltydd lle na fyddai wyneb traddodiadol yn ddigon cryf.
d) Mae rhoi wyneb micro-asffalt ar ffordd yn broses gyflym, a gellir lledaenu'r deunydd mewn llai nag 20 munud. Golyga hyn nad yw'n amharu'n ormodol ar lif y traffig.
e) Dwr yw prif gynnwys micro-asffalt a gellir ei ledaenu ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ac eithrio pan y bydd hi'n rhewi, ond ar y cyfan dim ond rhwng mis Ebrill a mis Hydref y mae ar gael.
Fel arfer, ni ddylid ond lledaenu micro-asffalt ar ffyrdd sydd mewn cyflwr da ac sydd o adeiladwaith gadarn, gan nad yw'n ddeunydd sy'n cryfhau ffyrdd.
Coltario
Mae coltario'n ddull arall cymharol rad a chost-effeithiol o selio priffordd rhag i ddwr dreiddio i mewn iddi, gan amddiffyn haenau'r ffordd a haenau adeileddol rhag dirywio ymhellach. Yn ogystal â hynny, mae gosod graean yn gwella gallu'r briffordd i wrthsefyll sgidio. Disgwylir y bydd y math yma o waith yn para oddeutu 5 mlynedd.
Ar y cyfan, dim ond mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd amhreswyliol y gwneir gwaith coltario gan fod cerrig mân sy'n tasgu ar lwybrau troed ayb.
Gellir coltario o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
* Os oes tystiolaeth o ocsidiad a chraciau tensiwn (craciau mân) i'w gweld ar wyneb y ffordd. Os yw wyneb y ffordd yn troi'n llwyd - mae hynny'n arwydd o ocsidiad - cyfeirir hefyd at y cyflwr drwy ddweud bod y ffordd yn 'llwglyd'
* Mae profion gwrthsefyll sgidio yn dangos bod wyneb presennol y ffordd yn llithrig
* Er mwyn atal y ffordd rhag dirywio oherwydd bod dwr wyneb yn treiddio i'r ffordd, a phan na ellir fforddio gwneud gwaith ailwynebu/ailadeiladu.
Ni ddylid ond coltario palmentydd sydd o adeiladwaith gadarn ac sydd mewn cyflwr da. Yn ddelfrydol, dylid gwneud gwaith trwsio flwyddyn cyn coltario er mwyn atal bitwmen pur rhag dod i'r wyneb drwy'r graean.
Fel arfer, nid yw coltario'n addas ar gyfer safleoedd o bwysau uchel e.e. cylchfannau, elltydd serth ayb, oni bai fod glynwyr arbennig yn cael eu defnyddio, ac fe ddylid cyflawni'r gwaith rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Arwynebau Tenau (Asffalt Cerrig Mastig - SMA)
Gan fod iddo wead agored mae gan SMA nodweddion tebyg i asffalt mandyllog ac mae'n creu llai o swn ac yn tasgu llai o gerrig nag y mae deunydd arwyneb arferol. Mae felly'n addas i'w ddefnyddio ar ffyrdd cyflym, ac mewn ardaloedd â chanddynt amgylchedd sensitif e.e. Dyffryn Gwy.
Ailwynebu 'Traddodiadol'
Yn draddodiadol defnyddid bitwmen macadam dwys (DBM) neu asffalt poeth wedi ei rolio, ond erbyn hyn defnyddir asffaltau Lefel Uchel o Gerrig (HSC) (60% o gerrig). Disgwylir iddo bara hyd at 20 mlynedd.
Gellir gosod haen wyneb fel tros-haen h.y. er mwyn cryfhau mwy ar y ffordd, neu ei mewnosod wedi cael gwared â wyneb presennol y ffordd. Fel arfer bydd yn cael ei thaenu ar drwch o 40-50mm gan ddefnyddio 14mm o gerrig mân.
Mae Asffalt HSC yn llai hydraidd na macadam DMB ac mae'n gwrthsefyll tail yn well, ac felly fe'i hystyrir yn opsiwn yn lle macadam DBM ar isffyrdd gwledig. Gan nad yw ei wead yn ddwfn, nid yw'n addas ar gyfer ffyrdd lle mae'n debygol y bydd cerbydau'n teithio'n gynt na 50 milltir yr awr.
Ailadeiladu Priffyrdd
Pan nad oes modd atgyweirio palmant y briffordd, mae'n rhaid gwneud gwaith ailadeiladu confensiynol neu ailosod y ffordd.
Mae palmant yn gallu dirywio oherwydd un o'r rhesymau a ganlyn:-
* Yr haen isaf wedi meddalu oherwydd system ddraenio wael.
* Yr haen isaf wedi meddalu oherwydd bod lleithder wedi treiddio drwy graciau a mân dyllau yn haenau'r palmant oherwydd ocsidiad cynyddol.
* Yr haen isaf wedi dirywio gan nad yw'r palmant yn ddigon trwchus.
* Gwthiad rhew
Mae ailosod yn broses o ailgylchu, ac felly mae'n lles i'r amgylchedd. Er mwyn gwneud hyn rhaid ychwanegu bitwmen a/neu sment at 'dafelli' wedi eu tynnu o wyneb presennol y ffordd. Wedi hynny bydd y cyfan yn cael ei ailraddio a'i rolio yn balmant ar ei newydd wedd. Yna, yn rhan o'r broses, mae'r wyneb yn cael ei selio gyda thar a graean. Fel arfer, bydd ailgylchu rhan fas o'r ffordd, hyd at 75mm yn ddigon ar gyfer isffyrdd distaw iawn, ac fe fyddai tros-haen o 60mm ar yr wyneb bron iawn yn dyblu cryfder y ffordd ac yn ei gwneud yn llawer mwy gwastad.
Gellir ailgylchu rhan ddyfnach o'r ffordd, hyd at 450mm yn lle gwaith ailadeiladu confensiynol.
Gwaith Adfer Troedffyrdd
Mae troedffyrdd fel arfer wedi eu creu o gerrig palmant, palmentydd bloc neu o adeiladwaith hyblyg.
Cerrig Palmant
Fel arfer gosodir slabiau newydd neu ailosodir hen slabiau ar droedffyrdd sy'n bodoli eisoes - yn arbennig mewn ardaloedd cadwraeth, strydoedd canol y dref ac ardaloedd preswyl lle bydd blaenau tai teras yn ymylu â'r droedffordd.
Blocbalmantu
Yn aml bydd palmentydd bloc yn well i wrthsefyll pwysau traffig na cherrig palmant yn dilyn gwaith nwy/trydan/dwr. Bydd hyn hefyd yn osgoi marciau diolwg ar wyneb y droedffordd.
Gwaith Adeiladu Hyblyg ( h.y. bitwmen macadam)
Dyma'r opsiwn rhataf er mwyn adeiladu troedffordd. Defnyddir y dull hwn mewn ardaloedd preswyl, gwledig a thu allan i'r dref.
Selio Troedffyrdd â Llaid
Gellir selio troedffyrdd â llaid pan fydd yr haen wyneb yn dechrau darfod ac yn ymddangos yn 'llwglyd'. Defnyddir y dull hwn i selio'r wyneb ac i atal troedffordd rhag ocsideiddio ymhellach.
Mae selio â llaid yn ddull rhad ond nid yw'n boblogaidd bob amser mewn ardaloedd preswyl. Rhaid monitro'r saernïaeth yn barhaus er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gyson a bod yr ymylon a'r gwaith haearn yn cael eu cuddio'n daclus.
Nid yw selio â llaid yn cryfhau ffordd, ac felly rhaid adfer pob diffyg sydd yn y pafin drwy ailosod yr haenau adeileddol.