Beth i'w wneud os deuwch chi o hyd i gi coll. Gellir diffinio ci coll fel un sydd mewn lle cyhoeddus, nad yw o dan reolaeth ei geidwad. Os gwelwch gi coll, gallwch chi hysbysu eich warden cŵn lleol ar 01633 644126/7/8. Fel arall, gallwch chi fynd â'r ci i'r swyddfa heddlu sydd ar agor yn barhaol agosaf.
Beth i'w wneud os yw eich ci wedi'i gorlannu Ni fydd gan berson sy'n honni mai fe neu hi yw perchennog y ci yr hawl i gael y ci yn ôl nes y telir yr holl gostau a gafwyd oherwydd corlannu'r ci.
Ar hyn o bryd y costau yw £25.00 a £5.50 y dydd neu ran o ddydd a ffi am frechiad o £14.10. Cedwir cwn coll a ddeuir o hyd iddynt o fewn y sir am hyd at 7 diwrnod yn Pantymilah Kennels & Cattery, Pantymilah Farm, Railway Terrace, Hollybush, Coed-duon, Gwent (Rhif ffôn 01495 724580)
Cyfeiriadau i'r cytiau - mae'r cytiau ar y brif heol rhwng Coed-duon a Thredegar (A4048). O Dredegar mae mynediad ar yr ochr chwith ychydig y tu hwnt i arwydd ffin sir Caerffili a chyn pentref Hollybush. O Goed-duon mae mynediad ar yr ochr dde toc ar ôl mynd drwy bentref Hollybush.
Gellir talu'n syth yn y cytiau.
Perchnogaeth gall ar gŵn O dan y gyfraith mae'n ofynnol ar berchnogion i sicrhau bod eu ci'n gwisgo coler gyda thag sy'n rhoi manylion enw a chyfeiriad y perchennog. Hefyd argymhellir y defnyddir dulliau adnabod parhaol, fel microsglodyn neu datw, yn ogystal â'r coler. Mae'n rhaid i berchnogion gadw eu cwn o dan reolaeth bob amser a pheidio â gadael iddynt grwydro neu baeddu'r pafin neu fannau cyhoeddus.
Microsglodyn
Mewn cydweithrediad â'r NCDL (National Canine Defence League) mae Cyngor Sir Fynwy'n cynnal sesiynau microsglodion rheolaidd. Nod y cynllun yw i leihau'r nifer o gŵn coll a gorlennir bob blwyddyn oherwydd na ellir dod o hyd i'w perchnogion.