Os ydych yn byw o fewn milltir a hanner (y pellter statudol a osodir gan y DfES ar hyn o bryd yw 2 filltir) o'ch ysgol ddalgylch bydd gennych hawl i gludiant ysgol. Os yw'r ysgol yr eir iddi'n agosach na'r "dalgylch" ac yn fwy nag un filltir a hanner o'ch cartref y mae'n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys.
Os ydych chi'n byw yn llai na'r pellter gorfodol ac oherwydd natur gwledig Sir Fynwy gellir darparu cludiant os penderfynir bod y llwybr yn rhy beryglus, h.y., ddim llwybr droed neu wasanaeth bws cyhoeddus.
Gellir hefyd ddarparu cludiant i blant sy'n mynd i Ysgol Gyfrwng Gymraeg neu sy'n derbyn addysg enwadol.
Mae'n rhaid i bob cerbyd a gontractir gan yr Awdurdod ateb y ddeddfwriaeth parthed addasrwydd i'r ffordd, gwregysau diogelwch ac ati.
Mae'n rhaid i bob gyrrwr ac lle mae'n briodol hebryngyddion fod â datgeliad uwch gan y Biwro Cofnodi Troseddau.
Mae'r Awdurdod wrthi'n ymgymryd ag Adolygiad Gwerth Gorau o gludiant ysgol, a all, o bosibl, gael effaith ar y ddarpariaeth yn y dyfodol. Fel rhan o'r adolygiad gwahoddwyd BUSK (Gwisgwch Wregys Blant Ysgol - Belt Up School Kids) i weithredu fel cyfaill beirniadol. I ddarganfod rhagor, llenwch y ffurflen gais.
Links
BUSK: beltupcshoolkids@btinternet.com