Os bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn penderfynu
Fel rhiant a allaf i fod yn bresennol mewn unrhyw asesiad?
Gallwch, wrth gwrs. Mae gennych hawl i fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad neu gyfweliad, ond weithiau mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn i chi aros gerllaw, pe byddai hyn yn helpu’r asesiad.
Ble y mae'r asesiadau'n digwydd?
Bydd rhai'n digwydd mewn clinig ond gall rhai ddigwydd gartref neu yn yr ysgol.
Beth sy’n digwydd ar ôl yr asesiad?
Unwaith y caiff yr holl wybodaeth ei chasglu, yna bydd yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau i lunio datganiad, neu beidio.
Os na chyhoeddir datganiad, bydd yr awdurdod yn ysgrifennu atoch gan esbonio pam, ac os nad ydych chi'n cytuno gyda'r penderfyniad, bydd gennych yr hawl i apelio at y tribiwnlys.
Nodyn yn Lle
Gall yr awdurdod benderfynu i beidio â chyhoeddi datganiad, ond gall gyhoeddi ‘nodyn yn lle’ yn ei le. Mae hyn yn debyg i ddatganiad, ond nid yw’n orfodol ac nid oes ganddo’r un statws â datganiad. Bydd y nodyn yn lle yn sicrhau y defnyddir yr holl wybodaeth a gesglir yn ystod yr asesiad at bwrpasau da, hyd yn oes os na wneir darpariaeth ychwanegol ar ei gyfer.
Datganiad Arfaethedig
pan fydd yr awdurdod yn penderfynu cyhoeddi datganiad, bydd yn ei gyhoeddi'n gyntaf ar ffurf 'arfaethedig'. Gwneir hyn o fewn 2 wythnos i orffen yr asesiad. Bydd gennych yr hawl i wneud sylwadau ar y datganiad drafft.
Datganiad Terfynol
Unwaith y cytunir ar y datganiad ac y caiff ei derfynu, mae dyletswydd ar yr awdurdod i sicrhau y gwneir darpariaeth ar ei gyfer.
Os nad ydych yn hapus gyda’r datganiad terfynol, ac mae’r awdurdod yn teimlo nad yw'n gallu ei newid, mae gennych yr hawl i apelio at y tribiwnlys anghenion addysgol arbennig.
Gall rhieni amlygu yr hoffent i’w plentyn fynd i ysgol y tu allan i'r sector a gynhelir, neu i wneud sylwadau am leoliad y tu allan i'r sector a gynhelir. Rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â dewisiadau posibl, oni bai:
(i) bod yr ysgol yn anaddas i oedran, gallu neu anghenion addysgol arbennig y plentyn.
(ii) byddai’r lleoliad yn anghydnaws ag addysgu effeithiol y plant eraill.
(iii) byddai’r lleoliad yn anghydnaws â defnydd effeithiol adnoddau.
Mae’n rhaid i awdurdodau addysg lleol ystyried sylwadau rhieni a threfnu unrhyw gyfarfodydd y mae’r rheini eisiau, cyn cyhoeddi'r datganiad terfynol.
Gweithrediad
Unwaith y bydd y ddarpariaeth a nodir yn y datganiad wedi'i sefydlu mae cyfrifoldeb yr ysgol a'r awdurdod yn parhau ac mae'n rhaid iddynt sicrhau yr atebir anghenion y plant.
Adolygiad Blynyddol
Rhaid i’r ysgol a’r awdurdod sicrhau y parheir i ateb anghenion y disgybl. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy broses yr adolygiad blynyddol. Byddwch chi hefyd yn cymryd rhan yn y broses a chymerir eich barn i ystyriaeth. Pan fydd tua 14 oed cynhelir gweithdrefn adolygu manylach fydd yn ystyried trosglwyddo o'r ysgol ac addysg barhaus drwy gydol oes.
Amgylchiadau Eithriadol Mae’r cod ymarfer ar nodi ac asesu anghenion addysgol arbennig yn gosod terfynau amser ar gyfer pob rhan o'r broses. Mae hefyd yn dweud na ddylai’r holl broses o’r cychwyn tan y diwedd gymryd yn hirach na 26 wythnos. Serch hynny, oherwydd amgylchiadau eithriadol gall fod achosion lle na ellir cyflawni terfynau amser. Er enghraifft:
(i) yn ystod cyfnodau pan fydd yr ysgol ar gau.
(ii) os na chedwir apwyntiadau, neu os yw’r disgybl yn absennol o’r ardal am gyfnod.
(iii) os bydd unrhyw amgylchiadau personol arbennig.
(iv) ni ddychwelir gwybodaeth o rywle arall mewn pryd
(v) mae rhieni eisiau rhagor o amser i ddarparu cyngor.