Search Map o'r wefan English 
blank
*
*
Hafan
*
Gwasanaethau Llywodraethwyr
HafanAddysg a DysguYsgolionGwasanaethau LlywodraethwyrCyrff Llywodraethol
Chwilio   *
*
green line image
*
images images images images images
Bod yn Llywodraethwr
Cyrff Llywodraethol
Hyfforddiant Llywodraethwyr
Rôl o Wasanaethau Llywodraethwr
ymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy (MASG)
English version
images
Sut mae'r Cyrff Llywodraethol ei wneud?
images

Ceir mathau gwahanol ar lywodraethwyr ysgolion. Mae hon yn esbonio pwy sydd ar gorff llywodraethol a pham.

images
images images images

Pennaeth

Mae'r Pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethol oherwydd ei swydd. Gall ddewis i beidio â bod yn llywodraethwr ond byddai disgwyl iddo/iddi fynychu cyfarfodydd i gynnig cyngor a gwybodaeth.

 

Rhiant

Gall rhiant-lywodraethwr fod yn rhiant gwirioneddol, rhywun sydd arddel cyfrifoldeb rhiant neu rywun sy'n gofalu am blentyn.

 

Pan fydd lle gwag ar gyfer rhiant-lywodraethwr, gofynnir am enwebiadau gan rieni ac os oes mwy nag un cynhelir etholiad.

 

Awdurdod Addysg Leol

Nid yw Llywodraethwyr AALl o reidrwydd yn Gynghorwyr Sir ond fel arfer byddant yn aelodau o blaid wleidyddol. Ceisir enwebiadau gan Gynghorau Sir yn nalgylch yr ysgol.

Mae gan Sir Fynwy god ymarfer ar gyfer penodi llywodraethwyr AALl er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r amser i fod yn llywodraethwr.

 

Athro

Etholir athro-lywodraethwyr gan eu cydweithwyr i'w cynrychioli. Ni all athrawon fod yn llywodraethwyr ond tra eu bod yn gyflogedig gan yr ysgol.

 

Cyfetholwyd

Gall cyrff llywodraethol ofyn i bobl eraill ymuno â hwy. Pwrpas llywodraethwyr a gyfetholir yw i gynrychioli'r gymuned fusnes.

 

Awdurdod Llai

Penodir y llywodraethwyr hyn gan y gyngor tref neu gymuned lleol.

 

Sefydliad

Penodir llywodraethwyr sefydliad gan y Sefydliad a/neu Ymddiried ysgol wirfoddol (eglwys). Mae llywodraethwyr sefydliad yn gyfrifol am ethos crefyddol yr ysgol.

 

Staff

Mae'r llywodraethwyr hyn yn cynrychioli'r gefnogaeth yn yr ysgol ac ni allant fod yn llywodraethwyr ond tra eu bod yn gyflogedig yn yr ysgol.

 

Partneriaeth

Mae llywodraethwyr partneriaeth yn eistedd ar gyrff llywodraethu ysgolion sefydliad an-eglwysig, hy ysgolion a gynhelid â grant gynt. Mae'r corff llywodraethu'n gyfrifol am geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwyr partneriaeth ac am eu penodi.

images
images
 Dolynnau Defnyddiol
images

Contact
  Governor Services

01633 644526

email
  Lifelong Learning & Leisure
Monmouthshire County Council
County Hall
Cwmbran
NP44 2XH

footer space
space image

space image
-+Maint y testun - Arferol
Newid i liwiau gwrthgyferbyniad uchel
Copyright | Terms of use | Search | A to Z | Site Map | Contact Us

Copyright© Monmouthshire County Council 2008
All rights reserved

Telephone: 01633 644644 Fax: 01633 644666
Email Monmouthshire Council
Working  with the Citizens of Monmouthshire : Gweithio gyda dinasyddion sir Fynwy

Report broken links | Comment on this page or website