Cyflwynir meini prawf mynediad cyfredol yr Awdurdod yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni, sydd ar gael o'r swyddfa, ysgolion, ac o siopau un stop yn Sir Fynwy. (Please note that the handbook is currently being re-drafted)
I Addysg Uwchradd os ydych yn byw yn y dalgylch bydd eich plentyn yn cael lle'n awtomatig. Os ydych yn byw y tu allan i'r dalgylch ac mae ysgol yn ordanysgrifiedig defnyddir y meini prawf canlynol:
(1) Anghenion Addysgol Arbennig/Meddygol
(2) Brodyr a chwiorydd yn yr ysgol
(3) Pellter o'r cartref i'r ysgol
Yn achos Addysg Gynradd defnyddir yr un meini prawf. Dylai rhieni fod yn ymwybodol y gallai menter lleihau meintiau dosbarthiadau ysgolion cynradd gael effaith ar allu rhai o'r ysgolion i dderbyn yr holl ddisgyblion sy'n byw o fewn eu dalgylch. Mae plant yn gymwys i gael eu derbyn i ysgol ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae eu pen-blwydd yn bump oed yn syrthio ynddi (hy, 1af Medi - 31ain Awst). Nid oes rheidrwydd cyfreithiol i blant fynd i'r ysgol tan ddechrau'r tymor ysgol yn dilyn eu pumed ben-blwydd.
Y Dyddiadau cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais am fynediad i ysgolion ar gyfer Medi 2004 yw fel a ganlyn:
Ffurflen gais ysgol uwchradd: 30ain Tachwedd 2003
Ffurflen gais ysgol gynradd: 16eg Ionawr 2004
Noder y gall methu dychwelyd eich ffurflen cyn y dyddiau hyn beidio â gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol o'ch dewis.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch yr cyfeiriad/rhif ffôn mewn yr ardal cyswllt ar ben yr sgrîn, Diolch.