Mae Coed Glas ar Rockfield Road, y Fenni, yn agos i safle hen Ysbyty Pen-Y-Fâl.
Yn draddodiadol, roedd digwyddiadau'n cael eu cofrestru mewn Swyddfa Gofrestru ers i gofrestru sifil ddechrau yn 1837. Heddiw, mae'n parhau i gofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau, cadw'r cofrestrau gwreiddiol lle y'u cofnodir, ac yn darparu copïau a thystysgrifau dyblyg pan ofynnir amdanynt.
Yn ogystal â chofrestru digwyddiadau heddiw, mae Coed Glas yn cadw cofrestrau genedigaethau, priodasau a marwolaethau gwreiddiol i'r Sir Fynwy bresennol o 1837 hyd heddiw. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â chofnodion genedigaethau a marwolaethau.
Eich Priodas yng Nghoed Glas
Mae'r Swyddfa Gofrestru'n adeiladau Fictoraidd a adnewyddwyd yn ddiweddar gyda'i diroedd ei hun. Mae'r awyrgylch yn un ymlaciedig a'r amgylchedd yn heddychlon - y gwrthgyferbyniad perffaith i dref farchnad brysur y Fenni.
Mae mynyddoedd Ysgryd Fawr a Blorrens yn creu cefndir perffaith i luniau.
Mae ystafell briodasau'r llawr daear wedi'i addurno'n chwaethus ac mae digon o seddi i 46 o westeion eistedd yn gyfforddus. Ceir digon o leoedd parcio i geir ac mae'r gerddi'n cael eu neilltuo at ddefnydd parau'n unig ar y penwythnos, gan roi cyfle gwych iddynt rannu gwydryn o siampaen gyda gwesteion.
Ceir mynedfa i'r anabl.