Skip to Main Content

<iframe src=”http://en.wikipedia.org/wiki/Tintern_railway_station” height=”400″ width=”800″></iframe>

Adeiladwyd yr Hen Orsaf, Tyndyrn, fel gorsaf reilffordd wledig gan y Fictoriaid. Heddiw, mae’r orsaf yn safle dymunol i ymweld ag ef am ddiwrnod allan hamddenol a thawel neu i ddechrau taith gerdded yn harddwch Dyffryn Gwy.

Derbyniodd yr Hen Orsaf wobr fawreddog y Faner Werdd yn 2009 a chadwodd y wobr yn 2010 a 2011. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r parciau gorau yn y wlad. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi ennill anrhydedd “hoff barc y DU” yng Ngwobrau Dewis y Bobl y Faner Werdd.

Mae’r safle yn cynnwys llwybr a dolydd glan yr afon, man chwarae i blant, safle picnic gyda barbeciws, ystafell de, siop anrhegion, gwybodaeth i dwristiaid a safle gwersyll sylfaenol a diarffordd. Mae’r blwch signal yn gartref i arddangosfeydd newidiol gan artistiaid a chrefftwyr lleol.

Mae ein cerbydau rheilffordd adnewyddedig yn gartref i’r arddangosfa Cyrchfan Dyffryn Gwy, a fydd yn eich helpu i archwilio treftadaeth Dyffryn Gwy. Lawrlwythwch ein taflen safle.

Mae cerfiadau pren Cylch Chwedlau yn cynnwys cymeriadau chwedlonol neu hanesyddol lleol sy’n sail ar gyfer cyfres o lwybrau ledled Sir Fynwy.

Mae’r ystafell de Carriages yn yr Hen Orsaf ar agor ar gyfer brecwast, cinio ysgafn, cacennau cartref, a the prynhawn fel y gwelir yng nganllaw Afternoon Tea yr AA.

Mae’r Hen Orsaf yn aelod o Gymdeithas Dwristiaeth Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena.

Oriau agor

Mae’r Hen Orsaf ar agor rhwng mis Ebrill a diwedd mis Hydref. Ein horiau agor yw 10:00 i 17:30 bob dydd. Mae mynediad anffurfiol i’r safle cefn gwlad trwy gydol y flwyddyn.

Gwybodaeth am fynediad

Mae’r Hen Orsaf wedi’i lleoli ar yr A466, priff ffordd Dyffryn Gwy, i’r gogledd o bentref Tyndyrn (NP16 7NX). Mae’r bws rhif 69 yn mynd heibio i’r fynedfa. Cysylltwch â Traveline am fwy o wybodaeth trwy ffonio 0871 200 22 33. Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn croesi’r safle.

Yn y bôn, mae’r Hen Orsaf a’r dolydd ar ei hochr yn “ddi-rwystrau”. Mae yna doiledau hygyrch yn ogystal â chyfleusterau newid babanod yn y toiledau dynion a merched ill dau. Sylwer bod mynediad i’r Blwch Signal yn gofyn am ddefnyddio rhes o risiau serth.

Darperir mynediad ramp i’r cerbydau rheilffordd.

Mae sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn cefn gwlad ar gael (cofrestrwch gyda staff y safle i drefnu un).